Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ARWEINYDD. Riiif. 61.] IONAWR, 1881. [Cyf. VI. Y CYFARFOD MLSOL A'R " ARWEINYDD." Fb gafodd Cyfarfod Misol y Rhan LTchaf o Sir Aber- teifi gyfle rhagorol yn ddiweddar i roi terfyn ar hoedl Yr Arweinydd. Bii yr achos gerbron deirgwaith,— yn Llanbadarn, yn Llanilar, ac yn y Tabernacl; a phen- derfynodd y Cyfarfod Misol deirgwaith trwy fwyafrif niawr i gyhoeddi y misolyn am y flwyddyn hon hefyd, íi hyny heb fod ueb yn eiriol drosto, ond pawb yn gadael iddo, i syrthio neu i sefyll ar ei wasanaeth blaenorol, a gonestrwydd ei amcan. Yr un pryd rhaid cydnabod ein bod oll yn ddyledus iawn i'r brodyr a roddasant fantai» i'r Cyfarfod Misol i ystyried y petli mor bwyllog a chy- nifer o weithiau. Dangoswyd yn onest a difrifddwys y perygl i'r Corff fyned yn fethdalwr, a chael ei roddi yn llaw y swyddog, a'i datìu i'r carchar. Y mae hyd yn nod i bregethwr fethu neu wrthod talu ei ddyledion yn syniad ofnadwy. Ond beth a feddylir o Gyfarfod Misol yn gorfod myned i lys y metlidalwyr, neu yn dadleu y Statute of Limitation ? Y mae y meddwl dynol yu gwrthod derbyn i mewn y fath syniad arswydlawn. Nis uellir llai na rhyfeddu fod y Cyfarfod Misol, yn ngwyneb hyn oll, ar ol ail a thrydydd rhybudd, yn mỳnu ei ffordd ar draws pob cynghor, fel llawer bachgen afradlon arall, hc yn gwario ei brês ar lyfr! Cyfaddefwn yn rhwydd nad yw pris y llyfr ond ceiniog y mis; ac, er mwyn