Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ARWEINYDD. Rhif. 47.] TACIIWEDD, 1879. [Cyf. IV. AM BERSON CRIST. (Parhad o L d. 219.) Yn amser cynghor Nicea nid oedd Athanasius yn esgob ; ac felly nid oedd yn meddu lle na dylanwad esgobaethol. Ond yr oedd yn bresenol fel archdiacon i Alexander, yr hwn ar y pryd oedd esgob Alexandria; a bernir ei fod trwy ei weithgarwch a grym ei resymau wedi ennill yr ■esgcb hwnw, ac amryw ereill, i roddi gwrthwynebiad penderfynol i Arius. Ond yn fuan wedi y gymanfa hòno bu Alexander farw, a dewiswyd Athanasius yn esgob yn ei le. Erbyn hyn efe oedd prif ategwr athraw- iaeth yr liomoousion, sef yr undod natur, yn erbyn Arius, a'r hanner-Ariad, Eusebius o Cffisarea. Naturiol oedd iddo feddwl fod y frwydr wedi ei hennill, ac ymddiried yn ormodol yn yr ymherawdwr. Ond yn raddol argy- hoeddwyd ef mai y rhai olaf i ymddired ynddynt ydyw tywysogion gwladol; oblegid daeth i fod yn ymdrechfa bersonol rhwng yr ymherawdwr ac yntau, Cystenin yn •erbyn Athanasius, ac Athanasius yn erbyn Cystenin ; yr holl allu gwladol ar un llaw, a dim ond gallu un dyn ar y llaw arall; ond hwnw yn meddu ewyllys gref, yn ìlawn o ffydd yn y gwirionedd, ac fel yr ydym ni yn eredu, dan arweiniad ac amddiffyniad y Nefoedd.