Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ARWEINYDD. Rhif. 46.] HYDREF, 1879. [Cyf. IV. AM BERSON CRIST. (Parhad o t. d. 198.) 0 blitii y rhai a gymerasant ran arbenig yn y dadlenon a achoswyd gan Arius a'i blaid, y mae dau yn sefyll allan mewn modd mwy neilldnol na'r lleill; un o honynt wedi derbyn hynodrwydd oddiwrth amgylchiadau, a'r llall wedi cyrhaedd hynodrwydd er gwaethaf amgylch- iadau. Y cyntaf oedd yr Y"mherawdwr Cystenin, a'r llall oedd Athanasius, yr hwn trwy ei wroldeb anhyblyg a roddes fod i'r dywediad, Athanasius yn erbyn y byd. Am Cystenin, y mae yn anhawdd dweyd pa un fwyaf, y gwasanaeth neu y rhwystr a wnaeth ef i Gristionogaeth. Bu am ryw ysbaid yn wrthwynebwr cryf i ddaliadau Arius; ond trôdd wedi hyny i'w pleidio. Yr oedd efe yn edrych ar y cwbl o safle ymherodrol, gyda'r amcan o gadw heddwch y wladwriaeth; a'r rhai a aflonyddent ar yr heddwch cyffredin oedd y rhai y teimlai dan rwymau i'w gwrthwynebu. Yr oedd yn awyddus am lwyddiant crefydd y Groes ; er hyny nid yw yn ymddan- gos fod ganddo un farn sefydlog am ei hathrawiaethau, ac am hyny yr oedd yn agored i gael ei arwain gan y rhai hyny a fyddent mewn cyfle i ddylanwadu arno. Wedi iddo gael yr holl ymherodraeth Rufeinig dan ei awdurdod yn y flwyddyn 324, gwnaeth ymdrech i gy- modi y pleidiau trwy anfon Hosius, esgob Cordova, yr