Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ARWEINYDD. Rhif. 45.] MEDI, 1879. [Cyf. IV. AM BERSON C R I S T. (Parliad o t. d. 173.) Un o'r gwrthwynebwyr mwyaf penderfynol i Sabellius ydoedd Arius, er fod daliadau y ddau, fel y dywedwyd, yn tarddu o'r un gwreiddyn, ac yn arwain i'r un canlyn- iadau, sef i wadu holl drefn y prynedigaeth trwy angeu Crist. Yr oedd Arius yn cymeryd hanes y dyn Crist Iesu yn yr ystyr a ymddangosai iddo ef yn fwyaf llyth- yrenol a naturiol, ac yn canfod oddiwrth hyny ei fod, nid mewn rhith, ond mewn gwirionedd, yn berson gwa- hanol oddiwrth y Tad. Yr oedd yn foddlawn i'w gyd- nabod yn un llawer uwch na dynion cyffredin, ac hyd yn nod mewn rhyw ystyr yn Dduw. Ond wedi'r cwbl ni addefai ar un cyfrif ei fod yn fwy na chreadur. Dywedai fod y Duw tragywyddol yn byw yn y fath orucheledd fel nas gallai ymostwng i ddwyn y greadigaeth i fod; ac am hyny iddo greu Duw îs nag ef ei hun, a rhoddi iddo ef y gorchwyl o greu pawb a phob peth arall. Gwelir ar unwaith fod yma anghysondeb; oblegid os yw Crist yn greadur yn unig, y mae yr un pellder anfeidrol rhwng Duw ac ef ag sydd rhyngddo a'r holl greadigaeth. Pa mor uchel bynag y dyrchefir ef uwchlaw creaduriaid ereill, y mae y pellder anfeidrol rhyngddo a'r gwir Dduw