Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ARWEINYDD. Rhif. 44.] AWST, 1879. [Cyf. IV. AM BERSON CRIST. Pennod IV. Hanes yr Athrawiaeth am Dduwdod Crist. Wrth ddiweddu y rhan gyntaf o'r traethawd hwn, bernir mai buddiol fyddai rhoddi ychydig o hanes yr athrawiaeth, mor bell ag y mae yn dwyn perthynas â Duwdod yr Arglwydd Iesu Grist; yr hyn a'n harweinia i son am rai o'r cyfeiliornwyr boreuaf, megys y Sabell- iaid* a'r Ariaid; ac am brif amddiffynwyr y gwirionedd, yn enwedig Athanasius. Wrth ymdrin am gyfeiliornadau, byddai yn dda i ni arfer ein hunain i'w holrhain yn ol i'w hachosion cyntefig; a cheir yn fynych fod golygiadau sydd yn ymddangos yn groes i'w gilydd, yn gystal ag yn groes i'r Bibl, yn tarddu o'r un gwreiddyn, a hwnw ynddo ei hun yn wirionedd amlwg. Y mae hyn yn dangos y perygl yr ydym yn syrthio iddo wrth gyfyngu ein sylw at un gwirionedd, pa mor bwysig bynag y byddo, os gadewir allan y gwir- ionedd gwrthgyferbyniol. Gwreiddyn llawer o'r cam- syniadau am Berson Crist ydyw ymlyniad unochrog a rhagfarnllyd wrth y gwirionedd mawr mai un Duw sydd. Yr oedd hyn yn effeithio ar yr Iuddewon yn amser Crist * Y mae yn rhaid swnio 11 fel l yn y gair Sabelliaid.