Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YE AEWEINYDD. Rhif. 43.] GORPHENAF, 1879. [Cyf. IV. *■■■ • •' " • - AM BERSON CRIST. Parhad o t. d. 125. O'r cysylltiad anwahanol rhwng y gwirioneddau am undod hanfod a gwahaniaeth personau y mae yn tarddu wirionedd arall am gymundeb agos, gwastadol, goruchel rhwng y Personau dwyfol â'u gilydd. Gelwid y cym- undeb hwn gan y Groegiaid, perichoresis, a chan y Llad- inwyr, circumincessio : ac arwydda ryw fath o gymundeb hanfodol nas gall fod mewn bodau crëedig, fod pob un o'r Personau dwyfol yn bod yn y lleill, mewn modd ysbrydol, heb eu bod trwy hyny yn ymgymysgu â'u gilydd. Dywed Basil fel hyn, " Os derbynia neb y Mab mewn gwirionedd, caiff brofi fod y Mab yn dwyn ei Dad gydag ef ar un llaw, a'r Ysbryd Glân ar y llaw arall: oblegid efe, yr hwn sydd erioed o'r Tad ac yn y Tad, nis gellir ei wahanu oddiwrth y Tad; a'r hwn sydd yn gweithredu pob peth trwy yr Ysbryd, nis gellir ei wahanu oddiwrth yr Ysbryd . . . Oblegid ni ddylid dychy- mygu gwahaniad neu raniad mewn unrhyw fodd; fel pe gellid tybied y Mab heb y Tad, neu yr Ysbryd ar wahan oddiwrth y Mab. Ond y mae rhyngddynt ryw undeb a gwahaniaeth annhraethadwy ac anamgyffredadwy. Dy- wed Awstin, yn ei draethawd ar y Drindod, " Y mae pob