Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ARWEINYDD. Rhif. 42.] MEHEFIN, 1879. [Cyf. IV. YR ATHRAWIAETH AM BERSON CRIST. Undod Hanfod a G-wahaniaeth Personau. Parhad o t. d. 100. Y mae amryw dduwinyddion diweddar yn cymeryd tir uwch nag Awstin ; oblegid tra y mae efe yn ymfoddloni ar y prawf trwy gyfatebiaeth, y maent hwy yn ceisio dangos pa beth ydyw yr angenrheidrwydd natur sydd yn gofyn fod tri o Bersonau yn yr Hanfod ddwyfol. Yn gyffredin dilynant athronwyr yr Almaen, trwy ym- resymu fod yr ymwybodaeth o Myfi yn cynwys ym- wybodaeth o ryw wrthddrych cyferbyniol, ac felly nas gallasai y Tad ddywedyd Myfi heb fod rhyw Tydi yn bod yr hwn yw y Mab. Y mae ereill yn cadw yn fwy agos at y sýniad ysgrythyrol, " Duw cariad yw." Gan mai cariad ydyw o angenrheidrwydd, y mae yn canlyn fod rhyw wrthddrych neu wrthddrychau yn bod o angen- rheidrwydd i'w caru. Tra yn talu pob parch i'r awdwyr hyn fel meddylwyr galluog, dylem deimlo yn ddiolchgar am brofion mwy dealladwy yn yr ysgrythyr, profion sydd yo dwyn yr athrawiaeth i gysylltiad uniongyrchol â'n cyflwr a'n cydwybod. Yn lle traethu yn ymresymiadol ac athronyddol, dangosir y gwii'ionedd hwn yn yr ys- grythyr sanctaidd yn barhaus yn ei berthynas â threfn yr iachawdwriaeth: ac yn y wedd hon yn ddiau y mae yn fwyaf buddiol i ninau edrych arno. Megys mai o safle y greadigaeth y gwelir yn amlwg fod yn rhaid fod Duw yn bod; felly o safle y prynedigaeth y canfyddwn