Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YE ARWEINYDD. Rhif. 41.] MAI, 1879. [Gtp. IV. YR ATHRAWIAETH AM BERSON CRIST. Pennod ni. Undod Hanfod a Gwahaniaeth Personau. Fel y mae pob peth daearol yn cyfnewid, felly y mae ystyr geiriau; ac am hyny, er mai buddiol yw chwilio i'w tarddiad tuag at gael allan y syniad oedd ynddynt yn wreiddiol, y mae yn angenrheidiol cadw mewn cof fod y meddwl a drosglwyddir ganddynt, fel y corff dynol, yn cyfnewid gydag amser mewn maint ac agwedd. Ar y cyntaf arferai y Tadau Cristionogol y gair hanfod yn yr ystyr a roddir yn awr i'r gair Person; ac yr oedd y gair Person wedi ei arfer mewn ystyr mor isel fel nas gallent feddwl am ei briodoli i un oedd yn Dduw. Ac heblaw y cyfnewidiad a ddygid i mewn yn ystyr geiríau, yr oedd achos arall yn cydweithredu i rwystro y Crist- ionogion cyntaf i arfer geiriau priodol wrth ymdrin âg athrawiaeth y Drindod, yn y golygiadau cymysglyd oedd ganddynt am yr athrawiaeth hon, fel am yr holl athraw- iaethau ereill. Ac yn ddiau un o'r profion cadarnaf o ddwyfol ysbrydoliaeth y Testament Newydd yw y gwa- haniaeth anfesurol rhwng yr ysgrifenwyr sanctaidd a'u holynwyr. Ond yn raddol wrth chwilio a chymharu geiriau yr Ysgrythyr, i gyfarfod â chyfeiliornadau oedd yn ymgodi, daeth y Tadau Cristionogol i weled mai un