Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR AEWEINYDD. Rhif. 40.] EBRILL, 1879. [Cyf. IV. YR ATHRAWIAETH AM BERSON CRIST. Pennod II. Yit Uniganedig Fab. (Parhad o tudal. 56.) Y mae yr un athrawiaeth o dragywyddol genhedliad yn dyfod i'r golwg gyda sicrwydd fel casgliad naturiol a rhesymol oddiwrth luaws o ysgrythyrau ereill: oblegid, er nas gallasai rheswm ddarganfod y gwirionedd hwn cyn ei ddadguddio, na'i amgyffred ar ol ei ddadguddio, y mae i reswm ei waith priodol mewn cymharu gwahanol ranau o'r ysgrythyr, a thynu casgliadau oddiwrthynt; os gofelir fod y casgliadau hyny yn tarddu yn naturiol ac yn angenrheidiol o'r geiriau. Yr ysgrythyrau y cyf- eirir atynt yw y rhai hyny sydd yn dangos fod trefn gyson yn y rhanau a gymerwyd gan y Personau dwyfol yn ngwaith y prynedigaeth. Ni ddywedir un amser fod y Mab yn anfon y Tad, neu yr Ysbryd Glân yn anfon y Mab; ond y Tad yn anfon y Mab, a'r Tad a'r Mab yn anfon yr Ysbryd Glân. Y mae yn rhaid fod rhyw achos i hyn yn bod; a pha beth all fod yr achos oddieithr fod y drefn yn ngwaith y prynedigaeth yn tarddu yn angen- rheidiol oddiwrth drefn gyfatebol yn yr hanfod ddwTyfol ? Os yw y Tad yn gyntaf, y Mab yn ail, a'r Ysbryd Glân yn drydydd, yn ngwaith y prynedigaeth, yr ydym yn