Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ARWEINYDD. Riiif. 39.] MAWRTH, 1879. [Cyf. IV. YR ATHRAWIAETH AM BERSON CRIST. Pennod II. Ye Uniganedig Fab. Cymerir yn ganiatäol fod y rhai a ddarllenant y sylw- adau hyn yn credu dwyfoldeb Person y Gwaredwr; ac am hyny nid amcenir yn uniongyrchol at brofì yr athraw- iaeth, ond yn hytrach, hyd y gellir, at ei heglurhau. Ac eto nid llawer sydd o enwau ar Grist, neu ymadroddion yn son am dano, nad yw ei Dduwdod yn dyfod i'r golwg ynddynt; ac nad ydynt o ganlyniad wrth eu heglurhau yn profi yr athrawiaeth. Felly am yr enw hwn, Yr Uniganedig Fab. Y mae efe ei hun yn gofalu am wneuthur y gwahaniaeth yn amlwg rhwng ei fabolaeth ef a mabolaeth ei ddysgyblion, trwy ddywedyd fy Nhad i a'ch Tad chwithau. Er fod undeb goruwchnaturiol rhyngddo ef â hwynt, a'u bod hwythau yn rhinwedd jr undeb hwnw wedi eu codi i'r berthynas agosaf â'r Tad ag yr oedd yn bosibl i greadur ei chyrhaedd byth; er ei fod yn hoff o arddelwi ei berthynas ef ei hun â hwynt, ac wedi eu dysgu hwynt i ddywedyd, Ein Tad; eto nid yw efe ei hun un amser yn defnyddio yr ymadradd hwn. Pe na buasai ond creadur, gallasai ddywedyd Ein Tad gyda hwynt, ac fel hwythau ; a chan nad yw yn dywedyd