Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ARWEINYDD. RniF. 38.] CHWEFROR, 1879. [Cyf. IV. YR ATHRAWIAETH AM BERSON CRIST. Gan y Parch. Dr. Edwards, Bala. (Parhad o tudal. 5.J Ar ol dweyd fod y Gair yn y dechreuad, sef er tragy- wyddoldeb, fel y dywedir yn Llyfr y Diarebion am ddoethineb, " Er tragywyddoldeb y'm heneiniwyd, er y dechreuad, cyn bod y ddaear;" ac hefyd fod y Gair tragywyddol hwn yn Berson gwahaniaethol yn cym- deithasu gyda'r Tad; ac yn olaf fod y Gair yn Dduw, yr hyn yn ysgrifen unrhyw Iuddew yn yr oes hòno nis gallai arwyddo llai na'r unig wir Dduw; y mae Ioan yn myned yn mlaen i ddangos mawredd y Person anfeidrol hwn yn ei berthynas â gwaith y greadigaeth. " Trwyddo ef y gwnaethpwyd pob peth; ac hebddo ef ni wnaeth- pwyd dim a'r a wnaethpwyd." Am hyny nis gallasai ef ei hun fod yn greadur, gan fod pob peth wedi eu gwneuthur trwyddo, ac na wnaethpwyd dim hebddo ef, hyny yw, heb ei weithrediad ef. Ac os nad oedd yn greadur, y mae yn rhaid ei fod yn Dduw; ac nid Duw israddol yn ol ystyr y Groegiaid, yr hyn ni fuasai yn ddim amgen na Duw creedig; ond yr unig wir a bywiol Dduw, yn ol yr ystyr Iuddewig i'r gair. Am feddwl yr adnodau canlynol y mae gwahanol