Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y LLUSERN: CYLCHGRAWN MISOL. newydd Rhif 8. AWST, 1893. Cyf. I. NODIADAU CYFFREDJNOL. ,1F»T'DKY0HWN i gyfeiriad a fynom yr ydym yn cael arwyddion ein jphi^ bod yn byw mewn oes dra phrysur. Yr oeddym yn ddiweddar «A. yn siarad a gwr oedd newydd ddychwelyd o'i ymweliad cyntaf â Llundain. Un o'r prif bethau a dynodd ei sylw oedd prysurdeb-1. bywyd yn y brif-ddinas. Wrth gerdded heolydd y ddinas gweiai fod pawb o'i gwmpas yn cerdded a'u holl egni nes y teimlai ei fod yn unig yn eu canol. Nid oedd yno neb o'r miloedd oedd o'i ámgylch yn cymeryd sylw o hono ef, nac o neb arall ar wahan iddynt eu hunain. Pan yr elai i fasnachdy, nid oedd obaith am ysgwrs am bump neu ddeng munud ar bethau cyffredinol. Bhoddid iddo ei neges ar unwaithr ac ar ol ei chael rhaid oedd myned allan i ymgolli drachefn yn nghanol y dyrfa anferth oedd yn myned na wyddai neb i ba le. Ni welodd geffylau yn cerdded, fel yr arferai weled yn y cwmwd y magwyd ef, ond yr oeddynt oll yn rhedeg, a chredai wedi i geffyl yn Llundain fethu rhedeg na fydd dim i'w wneyd iddo ond ei saethu a'i daflu oddiar y ffordd. # # * * GelÌir edrych ar ei brofiad ef o fywyd yn Llundain yn ddarlun o fywyd yn gytfredinol. Prysur iawn yw pawb sydd yn gwneyd i fyny yr hyn a elwir yn gymdeithas—o'r gwleidyddwyr i lawr trwy ei gwahanol raddau nes dyfod at y rhai mwyaf cyffredin. Mae y prysuraf a'r goreu yn trechu, a'r gwanaf a'r mwyaf diog yn myned i'r clawdd. Ceir engraifft o'r prysurdeb hwn yn mysg y rhai sydd yn myned uwch ben y Beibl, fel yn mysg pob dosbarth arall. Mae y rhai mwyaf dysgedig a galluog yn chwilio i fewn i ystyr ei eiriau, amser cyfan- soddiad ei wahanol rànau, y modd i gysoni ei ddysgeidiaeth a'r dar- ganfyddiadau a wneir mewn canghenau eraül o wybodaeth, ac edrych- ant i fewn i'r cwestiwn o ba le y daeth, ac a yw ei ddysgeidiaeth yn wir. Mae dosbarth arall, Jluosocach, nas gallant fyned at y Beibl yn feirniadol, ond gallant, a gwnant, ddysgu allan ei eiriau, a thrysorant yn eu cof yr hyn a ddywedir gan feirniaid am dano; a thrwy y naill ffordd a'r llall, ymbarotoant ar gyfer arholiadau ynddo ac enillant wobrau uchel. Un o arwyddion goreu yr oes yw fod cymaint o chwilio diwyd a phrysur i gynwys y Llyfr. íí i? « # Nid yw y prysnrdeb uwch ben y Beibl y cjfeiriasom ato heb ei beryglon. Un o'r peryglon hyny ydyw i ddarllen defosiynol golli o'r tir. Mae y Beibl yn Üyfr, nid yn unig i'w feirniadu, ac i egluro ystyr