Skip to main content

Y LLUSERN: Rhif 50.] RHAGFYR, 1887. [Cyf. IV. NODIADAU AR EPISTOL CYNTAF IOAN. GAN Y PARCH. D. CHARLES DAVIES, M.A., TJPPEB BANGOR, I Ioan. v. 1. " Pob un dr sydd yn credu mailesu yw y Crist, 0 Dduw y ganed ef: aphob un a'r sydd yn caru yr hwn a genhedlodd, si/dd yn caru hefyd yr hwn a genhedlwyd 0 hono." jlJljSYNWYSA rhan flaenaf yr adnod fod perthynas agos a dieithriad yn |H bod rhwng ffydd a genedigaeth 0 Dduw. Cynwysir dau wir- ^^ ionedd yn yr athrawiaeth o ail-enedigaeth : un yw, mai yr un anian sydd mewn Cristion ag yn Nuw: y llall yw, fod yr anian mewn Cristion wedi ei chyfranu iddo gan Dduw 0 hono ef ei hun. Gan hyny er " mai creadur newydd" yw y Cristion " wedi ei greu yn Nghrist Iesu," nid creadigaeth yw ei anian, ond cyfraniad gan Dduw ac 0 Dduw. Nodwedd yr anian yw cyfeiriad newydd i holl alluoedd meddw], a theimladau caloD, a gweithrediad ewyllys dyn. Y mae y cyfeiriad newydd yn gyfystyr â chreadigaeth newydd. Gan mai tuag at Dduw y mae y cyfeiriad newydd, rhydd Duw ei argraff ar bob meddwl a theimlad a gyfeirir tuag ato. Felly y mae yr anian 0 Dduw fel ei ffynonell, gan Diuw fel ei chyfranydd,a thuagat Dduw fel ei hamcan. Y mae yn ddwyfol i gyd. Dangosir yn yr adnod hon fod perthynas rhyngddi â gweithred calon o eiddo dyn, sef credu. Os oedd yn bosibl, yn ol Iago ii. 19, i gythreuliaid gredu mai un Duw sydd, a pharhau yn gythreuliaid er hyny, pa fodd nad yw yn bosibl i ddynion gredu mai Iesu yw y Crist, a pharhau yn annuwiol er hyny. Nid cydsynio oedd credu yn y naill amgylchiad na'r llall. Ond yr oedd yn meddu ar ddigon 0 ddwysder, nes gadael ei ôl ar y person. Gadawodd ei ôl ar y cythreuliaid nes iddynt grynu: ac ar y dynion y sonir am danynt yma nes troi eu calonau. Yr oedd y gwahaniaeth hwn yn codi oddi ar y gwahaniaeth sydd rhwng yr hyn a gredwyd ganddynt: rhwng "mai un Duw sydd" ac "mai Iesu yw y Crist." Gan hyny y mae holl nerth a rhinwedd ffydd yn codi nid oddi ar yr hyn ydyw, ond oddi ar y gwrthddrych y gweithreda arno. Fe all ffydd fod y ddoethineb uchaf neu y ffolineb mwyaf. Pa un o'r ddau sydd yn dibynu yn gwbl oll ar ei wrthddrych. ^Yr hyn a gredir yma yw " mai Iesu yw y Crist," sef yr eneiniedigjdíWW"aredwr(frNu DlIihi^: neu yn ol adn. 5, " mai lesu yw Mab Duw." Yn Heb. v. 5, gwelir*^ berthynas rhwng ei Berson fel Mab Duw, ag un o'r swyddau yr eneiniwyd ef iddi, sef y swydd offeiriadol. Dangosir yma fod rhyw fawredd a gallu yn y gwirionedd fod yr Arglwydd Iesu yn Fab Duw ac yn Waredwr, fel y mae, trwy ei gredu, yn gwneuthur dyn yn ddyn arall, gan droi ei wyneb tuag at Dduw. Nid oes digon o allu yn y gwirionedd mai un Duw sydd i gyfnewid calon yr hwn sydd yn