Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y BEIEMADUR CYMREIG, Cyf. 1.] fâSSSWIll, S§4§. [Rhif.lì. Ultngljìfíastfi ^at^tfiüroU SEFYDLIADAU GWLADOL YR IUDDEWON. RHáN. III.----TREFIUADAU MILWRAIDD. Nid hir y bu plant dynion ar y tldaear cyn i ymrafaelion godi yn eu plith—ymrafaelion teuluaidd, cymydogaethol, a gwladwriaethol. Nid hir y buwyd, cyn i'r rhai cryfaf a mwyaf galluog ymosod o dro i dro, ar ei cyd-ddynion; a thrwy fudd- ygoliaethu felly, ennill anrhaith a chyfoethiddynt eu hunain. Yr oedd hyn yn peri fod yn angenrheidiol i ereill ymbarotoi mewn fíbrdd o hunan-ddiífyniad. Felly yr oedd teuluoedd mawrion a galluog yn fedrus mewn milwriaeth, megis teulu Abraham, Gen. xiv. Gwel hefyd p, xxxii. 7—12. a xxxiii. 1. Yr un rheswm ag oedd yn peri i deuluoedd wneyd hyn, oedd yn peri i deyrnasoedd ei wneyd hefyd. I. Nodwcdd ryfelgar yr Iuddewon. Ar ymadawiad Israel o'r Aipht, ymddengys nad oedd y genédl mewn un modd yn un ryfelgar—yr oedd yr ysbryd hyny wedi ei lwyr ddiífodd ynddynt trwy y llafur a'r gorthrymder mawr y buont dano yn ngwlad eu gelynion. Nid rhyfedd gan hyny eu bod yn cwyno mor ofnus wrth lan y Mor Coch pan oedd Pharaoh a'i fyddinoedd yn gyru areuhol, Ex. xiv. 10—12. Ac wedi hyny, ar ol i'r yspiwyr ddychwelyd a'r newydd atynt yn nghylch trigolion Canaan, oawn hwy raewn ofnau yn penderfynu dychwelyd i'r Aipht, Num. xiv. 1—6, Nid rhyfedd gan hyny, fod y Salmydd yn dweyd mai nid trwy eu dewrder eu hunain yr ennillasant eu gwlad, Salm xliv, 3. Ond gyda eu bod yn ymadael â'r Aipht, yr oedd eu holl wr- rywaid o ugain i hanner cant oed, yn cael eu rhestri i'r fyddin, hyny yw, yn cael eu rhwymo i fod yn filwyr; i ddysgu rhyfela; ac i ddyfod allan i'r maes yn ol fel y byddai yr angen, Num. i. 31 " '" ^