Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

îüettgîrîrtaetfi l^.sgrgíligtoL SEFYDLIADAU GWLADOL YE IUDDEWON. BHAN. Ii:—TIIEFHIADAU CYFEEITHIOL.—3. COSBEDIGAETHAU. Y dull olaf a sylwn arno oedd Croeshoelio. Yr oedd y dull yma o farwolaethu yn arferol yn mhlith amryw o hen genedl- aethau, megys yr Aiphtiaid, y Persiaid, y Groegiaid, y Carth- ageniaid, ac yn neillduol y Rhufeiniaid. Dyma y dull y bydd- ent hwy yn 'gyffredin yn cosbi y troseddwyr gwaethaf a mwyaf dirmygus yn eu piäth. Felly, yr oedd croeshoelio nid yn unig yn farwolaeth boenus dros ben, ond hefyd yn un waradwyddus iawn ; at yr hyn y cyfeiria yr apostol, Rhuf. v. 8. Heb. xii. 2. Yn y dwyrain, yr oedd y cyhuddedig yn colli bron holl am- ddiíí'yn y gyfraíth, ac yn cael ei osod yn agored i holl ddirmyg l a phoen a ddymunai ei eìynion osod arno. Gan hyny, nid rhyfedd fod cymaint o weithredoedd ysgeler wedi eu cyflawni tuag at Grist, gan mae yn unig o genfigen yr oeddent yn ei dra- ddodi. Wrth gollfarnu y cyhuddedig, dywedid wrtho ' Tydi a gei fi/ned i'r groes,' Yna tynid ei ddilìad odd a>m dano, oddi eithr rhyw fath o ì-wymyn am ei lwynau. Yna y peth cyntaf a wntìid iddo oedd ei fflangellu, weithiau â gwiail, ond yn gy- ffredin â fflangell o fân reffynau. Yr oedd y driniaeth yma mor chwerw feì yr oedd y dyodd'efydd yn marw dani yn fynych. Yr oedd y fflan'gellu yma yn cael ei wneyd yn gyffredin gan y barn- wr ei hun,* fel arwydd o gollí'arniad yr euog, a'i fod yn cael ei drosglwyddo i ddwŷlaw creuiaAvn a gwaedlyd y dyrfa. Felly y dywed yr Efangylwr, i Pilat gymeryd yr Iesu a'i fflangeliu, Ioan xix. 1- Y mae liuaws o hen awduron yn mhìith, Iuddew- on a Chenedloedd, megis Philo, Josephus, Levy, &c, yn * Jamieson's Eastern Manners—The Gospeîs, p. 343.