Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gyf. !•]__________MHgDS, 1@4@._________[Rhif.9 SEFYDLIADAU GWLADOL YR IUDDEWON. BHàN. II.—TEEFNIADAU CYFBEITHJOL.—3. COSBEDIGAETHAU. Yr oedd amryw fathau o gosbedigaethau yn mysg y genedl Iuddewig mewn gwahanol oesau ; a gellir eu dosbarthu yn ddau ddosbarth cyffredinol—sef, y rhai oedd yn ol y sefydliadau Mosenaidd, a'r rhai a fenthycwyd wedin oddiwrth genedloedd amgyìchynol i'r Iuddewon. I. Dan y pen yma gellir rhestri y rhai canlynol. 1. Carchar. Tybia rhai nad oedd carcharau i gael eu def- nyddio yn ol deddfau Moses fel cosb, ond fel lleoedd i gadw y troseddwyr hyd nes y profid hwy gan y barnwyr (Lef. xxiv. 12). Ond gan fod pob brys yn cael ei wneyd i brofi y cy- huddedig; ac ar ol ei gael yn euog, i'w gosbi, nid oedd nemawr neu ddim angen am garcharau i'r dyben uchod. Y mae y cry- bwyllion henafol sydd am danynt, a'r lluosogrwydd o enwau a ddefuyddir i'w dynodi yn yr Hen Destament (yr hyn sydd yn arwyddo eu bod hwythau hefyd yn Uuosog) yn peri i ni dybio yn gryf eu bod yn cael eu defnyddio gan yr Iuddewon yn mhob oes feí Ueoedd o gosb. Sut bynag, cawn grybwyllion mynych o hyn yn amser y breninoedd. Dyma y gosb a roddid yn fÿnych i'r prophwydi gan y breninoedd annuwiol, o eisiau iddynt fod yn fwy goddefol i'w pechodau, l Bren. xxii. 27; 2 Cron. xvi. 10; Jer. xxxvii. 21. Felly hefyd y gwnawd â Ipan Fedyddiwr gan Herod, Mat. iv. 12; a Phedr gan Herod Agrippa, Act. xii. 4. Ac ar ol y caethgludiad Babylonaidd, arfeiid rhoddi dyledwyr y n y carchar, yn ol arferion y cenedloedd, Mat. xviii. 30. Yr oedd math o ddaeardy yn perthyn i'r carchar, tebyg i bydewau oedd mewn lluaws o fanau yn y wlad heb fod yn gy- sylltedig uniongyrchol â charchar» Nis gwyddom yn sicr yn - _ _,