Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

mtngüìtíHttfi i&fgrgtìtsníU SEFYDLIÄDAÜ GWLADOL YR IUDDEWON. RHAN. II.—TREFNIADAü CYFBEITHIOL—2. TROSEDDATT. Gellir dosparthu y troseddau Iuddewig i bedwar math—sef rhai yn erbyn Duw a'r swyddogion; yn erbyn rhieni; yn erbyn personau ; ac yn erbyn meddiannau. I. Troseddau yn erbyn Duw a'r swyddogion. Fel y sylwyd o'r blaen, yr oedd Jehofah, yn ol ffurflywodraeth yr Iuddewon, yn cael ei ystyried fel eu prif Frenin neu Lywydd; ac o gan- lyniad, yr oedd troseddau yn ei erbyn ef yn cael eu rhestru yn flaenaf yn Uyfr eu cyfraith. Yr oeddid yn troseddu yn ei erbyn yn 1. Trwy Eilimaddoliaeth. Yr oedd hyny nid yn unig yn bechod yn ei erbyn fel Duw natur, ond hefyd fèl Penadur gwladol y genedl; a felly edrychid ar y trosedd fel teyrnfrad- wriaeth; a chosbid o â marwolaeth. Gallesid bod yn euog o gyflawni y pechod yma mewn amryw ffyrdd; megis (1,) Trwy addoli rhyw dduw heblaw Jehofah, Ex. 20. 3. (2.) Trwy addoli delwau, pa un bynag ai eiddo y gwir Dduw, ynte gau- dduw, Ex. 20. 5, 4; Deut. 27. 15.. (3.) Trwy ymgrymu* i ddelwau, neu unrhyw beth a ystyrid yn dduw, megis yr haul, y lleuad, neuy ser, Ex. 20, 5. a 34. 14; Deut. 4, 19. (4,) Trwy oddef allorau neu lwyni wedi eu cyflwyno i eilynod neu eu del- wau, Ex. 34. 13. Deut. 7. 5. a *12. 3. . (5.) Trwy offrymu i eilynod, Lef. 17. 1—7. Yn neillduol gwaherddid offrymau dynol, megis i rhieni offrymu eu plant, yr hyn oedd yn bur gyffredin y pryd hyny. (6.) l'rwy fwyta o'r hyn a aberthid i eilynod, er mae ereill fyddai yn aberthu, Ex. 34, 15. * Y dull o ymgrymu oedd plygu ar y gliniau, a chyffẁrdd y llawr á'r talcen.