Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y BEIRNIADUB CYMREIG. Cÿf.l,] ®@miPEÍ21SÎÄ3Fp 2.©4&. [J2W/7. llettîjtnyíacth S?iSîsr2th2VûU SEFYDLIADAU GWLADOL YR IUDDEWON. BHAN. II.—TBEFNIADATTCYFBEITHIOL— I. LLYSOEDD BABN. I. Ymddengys fod llysoedd barn yr Iuddewon yn dri math j sef y Porth, yr Uehel-lys, a'r Sanbedrim. 1. Y Porth. Yn oesoedd boreol y byd yr oedd pob peth pwysig gwladol yn cael ei drafod yn mhorth y ddinas. Yno yr oedd etifeddiaethau yn cael eu trosglwyddo o'r naill i'r llall, ac yno hefyd yr oedd pob mater o gyfiawnder rhwng gwr a gwr yn cael ei drin. Yr oedd y porth yn fan cyhoeddus iawn— man y byddai gweithwyr a masgnachwyr yn myned a dyfod— lle byddai marchnadoedd yn cael eu cynal— a lle y byddai llu- aws o drigolion yn treulio eu hamser. Yn y porth y prynodd Abraham feddrod gan Ephron, Gen. 23. 10. Yn y porth yr ymgyfammododd Hernor a'i fab Sichem â Jacob a'i feibion, (ren. 34. 24. Y porth hefyd oedd llys barn y ddinas; nid yn unig yn yr oesoedd Patriarchaidd, ond hefyd dan oruchwyliaeth Moses, Deut. 21. 19 a 22. 15 a 25. 7. Ymddengys iddo barâu felly tra y bu yr awdurdod i farnu eu gilydd yn mhlith y genedl. Yn y porth y trefnodd Boaz amgylchiadau ei briodas â Ruth, p. 4. 1—10, Ac ar ol y caethgludiad Babilonaidd nyni a gawn fod y llys yma wedi ei osod i fyny drachefn yn mhlith y genedl, Zêch. 8."l(î. Y mae eyfeiriadau aral yn yr Ysgrythyrau at byrth y dinas- oedd. Dywed Job fod nieibion yr ynfyd yn cael eu dryllio yn y porth, p. 5. 4: hyny yw, eu hachos yn cael ei brofi yn ddrwg. Gwel hefyd Salm 27. 5; Diar. 22. 22 a 31. 23; Amos 5. 12. Gan fod ìiwyddiant y ddinas yn dibynu i raddau mawr iawn ar yr hyn a wneid yn y porth, aeth y gair porth yn raddol i ddy- nodi nerth neu rym y ddinas. Dichon mai at hyny y cyfeiria !■-----—_________________------ . i i ..... .,, , j 19