Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y BEIRMADUB GYMREIG. Cy/.l.] 11IH3FII, 1§41. [Rhif.6. UUnÿìsìsímh SfggrgtfisroU SEFYDLIADAU GWLADOL YR IUDDEWON. VI.—Y TBETHI. Fel y soniwyd eisoes, yr oedd gwasanaeth y deml mewn rhan yn wladol yn gystal a chrefyddol, ac yr oedd y cwbl a gyfrenid at hyny yn fath o dreth wladol: felly, yn ol cyfraith Moses, yr oedd y cwbl a gyfrenid at gynaliaeth tý yr Arglwydd, yn cael ei olygu, mewn rhan, fel treth gyffredin i gynal y llywodraeth, Yr oedd y cyfraniadau yma yn driphlyg, sef degwm, rhan o'r offrymau, a threth ar bersonau. Uaw y ddau flaenaf dan sylw mewn lle arall; gan hyny cyfyngwn ein llinellau yn awr at yr olaf yn unig. Sefydlwyd y dreth hon pan oedd Israel yn yr anialwch, yn eu mynediad o'r Aipht i Ganaan. Yr oedd pob un ugain oed ac uchod, i dalu hanner sicl, fel iawn am ei waredigaeth o gaethiwed yr Aipht, Ex, 30. 11—16. Ni ddywedir yn bendant pa un ai deddf am dro ydoedd, ynte un barâus o flwyddyn i flwyddyn. Gan ei bod at wasanaeth y cysegr, dywed yr awduron Hebreig bod yn rhaid ei thalu yn flynyddol. Ond dywed Grotius ac ereill, mai treth achlysurol ydoedd—nad oedd i'w thalu ond ar amserau penodol; sef pan fyddai rhoddion ewyllysgar y bobl yn rhy fach i ateb y draul; neu rhyw achlysuron penodol eyffelyb. Felly ni a gawn yn amser Joas, fod yn angenrheidiol ei chodi cyn y gallsid adgyweirio tŷ yr Arglwydd, 2 Cron. 24. 4—9. Y mae yr hanes ynddo ei hun yn profì nad oeddid yn ei gwneyd yn flynyddol, ac os nad oeddent wedi ei hesgeuluso (yr hyn nid oedd yn debyg) y mae yn profi yr un modd nad - oedd i gael ei gwneyd yn flynyddol chwaith, Cawn hanes ei hadnewyddiad hefyd yn amser Nehemiah, pryd y lleiâwyd hi