Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y BEIRNIADUE CYMREIG. cyf.i.] @iawîgs5m®m a^ég. [shif.a. aiettgîrìn'aetfi SsfgrgthstoU SEFYDLUDAU GWLADOL YR IÜDDEWON. II.—Y FFUBFLTWODRAETH FOSENAIDD. Ar ol ymadawiad Israel o'r Aipht, yn eu mynediad tua gwlad Canaan, fe sefydlwyd ffurflywodraeth yn eu plith, na fu yn y byd ei cbyflelyb byth wedin ; a gan mai y prif offeryn yn ílaw üuw i ddwyn hyny oddi amgylch oedd Moses, íe elwir y flurflywodraeth hon weithiau yn Ffurflywodraeth Fosenaidd Tuagat ddeall natur y ffurflywodraeth yma yn iawn, y mae eis- iau i ni ystyried, fod yr Arglwydd yn sefyll mewn cysylltiad tri- phlyg â'r genedí Iuddewig; sef fel Creawdwr, Duw, a Brenin. Fel Creawdwr, yr oeddent hwy, fel pob cenedl arall, dan rwymau i gadw holl orchymynion y ddeddf foesol, ac i ufuddâu iddo yn mhob peth, gan ei fod yn Arglwydd ar gydwybod dyn- ion. Fel Duw, yr o ddent wedi ei ddewis yn wrthddrych eu haddoliad—wedi ymffurfio yn eglwys i'w wasanaethu; ac yr oedd yr holl osodiadau a'r defodau crefyddol yr oeddent hwy dan rwymau i'w cyílawni i ddeilliaw yn gyfangwbl oddi wrtho ef fel eu Pen crefyddol. Fel Brenin, efe oedd eu Pen a'u Llywodr- aethwr gwladol; ac yn yr ystyr yma, yr oeddent, fel gwladwr- iaeth, dan rwymau i ufuddâu iddo fel eu Llywydd gwladol, yn gystal ag yr oeddent fei eglwys, dan rwymau i ufuddâu iddo fel eu Pen crefyddol, Yr oedd hyn yn peri fod y ffurflywod- raeth Iuddewig yn wahanol yn ei natur i bob ffurflywodraeth a fu yn y byd erioed, neu yate a ddaw byth. Gyda phriodoldeb y gelwir hi yn Dduwolaeth. I. Y mae hyn yn ein harwain yn uniongyrchol i edrych ar oruchwyliaeth Sinai, nid yn unig fel trefniant crefyddol, ond mewn rhan helaeth a phwysig hefyd yn un gwladoJ, Yr oedd jr Arglwydd yn ymgymeryd â bod yn Frenin iddynt—i'w cy- nysgaeddu â chyíreithiau—eu harwain yn eu holl eymudiadau a'u trefniadau—-ac i'w bendithio am ufudd-dod, a'u cospi am