Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ftri &**" Rhif 48. RHAGFYR, 1900. Cyf. IV. Y PÄRCH. JOHN PENRY, CANOLBARTH AFFRICA. (Gyda Darlun—Gwel Tudal 183.) ANODD y cenadwr ieuanc hwn o un o'r teuluoedd niwyaf crefyddol a Chenadol ein Henwad a'n cenedl. Enwau ei ri'eni oeddynt John a Margaret Penry, Tirmawr, Llandeilo. Yr oeddynt o dalent, duwioldeb, a gweithgarwch crefyddol uwchlaw y cyffredin ; ac yr oedd eu gwybodaeth, eu cydymdeimlad, a'u sêl Genadol yn amlwg yn mhlith rhagoriaethau amlwg eu bywyd Cristionogol. Syniad llywodraethol meddwl y tad am fywyd crefyddol ydoedd— byw yn Genadol. Mewn ysbryd a gwaith Cenadol cartrefol a thramor; dyrchafu dynoliaeth, gwella cymdeithas, achub eneidiau, a chael dynion i fyw yn deilwng o Iesu Grist. A diau genyf fod ^abî=yd â chymhwysder y pregethwr a'r cenadwr penaf ynddo. A gwnaeth waith y ddau yn ystod ei fywyd yn ngwahanol gylchoedd ei fywyd teuluaidd, galwedigaethol, ac eglwysig. Breintiwyd hwy â phedwar o blant—dau fab a dwy ferch, a magwyd hwynt i fyny yn " addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd," gyda gofal, manylrwydd, a ffyddlondeb eithriadol. Bu farw un o'r merched yn gymharol ieuanc, cyn cyflawn ymddadblygu a dyfod i gysylltiadau a chylchoedd cymdeithasol bywjTd ; ond daeth y gweddill i gysylltiadau, safleoedd, a chylchoedd pwysig crefydd à'r weinidogaeth. Aeth y mab hynaf i'r weinidogaeth, sef y Parch. T. A. Pesry, Aberystwyth. Priododd Miss Penry â'r Parch. D. Edwj rds, Piltoc Green ; ac ymgysegrodd John, yr ail fab, i'r bywyd a'r'gwaith Cenadol. Felly, fe gafodd y tad a r fam yr anrhydedd a'r hyfrydwch o weled eu plant yn eiddö ac yn gyfiwynedig i'r Arglwydd a'i waith cyhoeddus.