Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y METHODIST. RHAGFYE, 1856. Y WEINIDOGAETH YN MHLITH Y METHODISTIAID. Yr ydym yn hyderu fod y sylwadau a wnaed yn yr ysgrifau blaenorol ar y testyn hwn, yn ddigonol i ddwyn pob dyn meddylgar i gydsyniad â ni, fod yn hen bryd cael y weinidogaeth yn fwy sefydlog; ac i'r eglwysi gael eu cymheli i alw brodyr cymwys i'w gwasanaethu yn yr efengyl; a charem yn fawr weled ein cyfundeb yn dyfod i benderfyniad, yn fuan, nad ordeinir neb i waith y weinidogaeth, ond y cyf- ryw ag y byddo eglwys, neu eglwysi neillduol, yn galw am eu gwasanaeth parhaus; canys nid oes na rheswm nac ysgrythyr yn cefnogi ordeinio gweinid- og i gyfundeb gwasgaredig dros ranau lawer o'r ynys hon, ac America fawr hefyd, pan nad yw naw o bob deg o honynt wedi cael un fantais i farnu am ei deilyngdod, nac yn meddwl cael dim o'i wassnaeth rhagllaw oddieithr ar ddamwain. A charem mor fawr dra- chefn na byddo dim yn cael ei roddi ar ffordd ordeinio neb ag y byddai eglwys, neu eglwysi neillduol, yn deis- yf eu cael yn weinidogion iddynt. Yr ydym yn credu yr attaliai hyn lifeiriant o ddrygau ag sydd eisioes wedi dyfod i'n plith, ac wedi darostwng yn ddir- fawr y rhan santeiddiolaf o honom, megys ordeinio brodyr o dosturi atynt, o ofal am eu teimladau, gan adael cy- mwysder o'r cyfrif. " Maent yn hen, 45 maent yn ffyddlon iawn," meddant. Atolwg pa beth nad yw yn myned yn hen gydag amser? Ai ffyddlondeb gweinidogaethol yw symud a theithio yn wastadol ar hyd a Ued y wlad? Gwyddom fod llawer o rai gwir ffydd- lon yn y weinidogaeth wedi gwneyd byn; ond nid hyn yw eu ffyddlondeb. Y mae yn ein mysg ryw ddynion, ac fe allai mai nid yn ein mysg ni y maent oll, gyda'r rhai hyn, ond i'r pregethwr wadu dynoliaeth yn llwyr, a diosg pob annibyniaeth meddwl, a gwisgo pob gwedd gardodaidd ac iselwael, efe a gaiff bob peth gan y rhai hyn, swydd- au, arian, a gwobrau; canys y mae efe yn un gostyngedig iawn, yn barod i dderbyn pob peth o ras; ond am yr annibynol ei feddwl, rhaid gwasgu arno a'i gadw i lawr, medd y dosbarth hwn; ac yn wir y mae gormod o le i gredu fod nifer wedi cyrhaedd safle- oedd yn y cyfundeb nad ennillwyd mo- honynt trwy wir werth a theilyngdod. Ni roddwyd erioed arian cymeradwy yn marchnad feddyliol a moesol y byd am danynt; meddudigon o ystwythder gwasaidd i ymostwng hyd y llwch i'r awdurdodau a nodwyd uchod, a'u pwr- casodd iddynt. Ni ddylai y pethau hyn fod felly yr ydym yn teimlo yn Uwyr argyhoeddedig. Pe gelwid ar yr eglwys i ddewis gweinidogion, a'u