Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y METHODIST. TACHWEDD, 1856. Y WEINIDOGAETH YN MHLITH Y METHODISTIAID. Wrth derfynuyrysgrifddiweddafar y testyn hwn, dy wedwyd " fod yn rhaid i'r weinidogaeth yn ein plith fod yn llawer nes at fod yn sefydlog; yn cynwys perthynas wirioneddol rhwng yr eglwysi â'r gweinidogion, a chael ffrwyth ar yr eglwysi a fyddo yn ddi- gonol i gynal y gweinidogion i Iwyrym- roddi i weinidogaeth y gair." Y mae hyn yn gyfnewidiad mawr y mae yn wir, ond yr ydym yn meddwl nad yw yn ormod i'w ddwyn yn ymarferol, a hyny yn fuan hefyd. Er dwyn yn mlaen unrhyw ysgogiad pwysig gyda gwaith yr Arglwydd, angenrhaid yw i ni fod yn unol, yn ddifrifol, ac yn hun- anymwadol. Ni ganfyddwn yr ysbryd hwn yn hanes pob tymor a fu ar ein cyf- undeb o'r dechreuad hyd yma. Na ddeued y dydd i ni byth ei golli, un o'n breintiau mawr fel corff ydyw nad ydym wedi ein gosod dan un gyfun- drefn o reolau dynol, ac annghyfnewid- ioldeb wedi ei ysgrifenu arnynt; bu hyn yn fantais a bendith ddirfawr i ni cyn hyn lawer tro. Y mae hyn yn werthfawr i ni yn awr, os gwelwn yn ein hamgylchiadau ac yn y dull presenol o ddwyn crefydd yn mlaen, ryw beth yn galw am gyfnewidiad, nid ydym dan orfod i ymladd a deddfau annghyfne- widiol dynion anmherffaith a marwol, ni a ddyraunem ymafìyd â'n holl nerth 41 yn yr hyn sydd ddwyfol, a chadw yr hyn a roddwyd i'w gadw atom, fel y mae Iesu Grist yn cadw yr hwn a gred ynddo; ninau a ddymunem gadw ei wirionedd a'i holl ewyllya ef gyda gofal tebyg i'r eiddo ef; ond ara yr hyn sydd yn ddynol ac amgylchiadol yn ein crefydd, ni ddewiswn gynlluniau a ffurfiau, ac a'u dodwn heibio drachefn fel y byddo yn fwyaf manteisiol i eg- wyddorion mawr teyrnas yr Arglwydd Iesu ymweithio allan. Fel hyn y mae pethau ifod yn y deyrnas ysbrydolhon, yr ydym ni dan ddeddf i'n brenin, ond y mae y ddeddf hòno y fath fel y mae pob synwyr yn ein natur, a phob gras yn ein crefydd, i weithio mewn rhyddid perffaith. Oni allwn edrych ar Gristion- ogaeth yn gorff o egwyddorion santaidd a bywiol, yn nerthol weithio yn y rhai a'i derbyniant, yn ol yr amgylchiadau y byddo eu meddianwyr ynddynt, gan gymeryd ffurf addas i'r amgylchiadau hyny. Egwyddor fawr y Testament Newydd ar hyn yw, fod yr efengyl i gael ei phregethu, gwirioneddau tra- gwyddol i gael eu dysgu, yr ordin- hadau i gael eu gweini, a phraidd Duw i gael ei porthi. Dyma y gorchymyn cyntaf, a'r gorchymyn mawr, ac yr ydym yn gostyngedig dybied fod yr ail yn gyffelyb iddo, fod dynion cymwys i gael eu galw at, a'r