Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ìl# Y METHODIST. AWST, 1856. YSGRIFENIADAU SOLOMON, A'R HYN O'I HANES SYDD YN GYSYLLTIEDIG A HWYNT. T Hwyrach mai yr hyn a ddwg y sylw^yn mlaenaf wrth ddarllen ysgrifen- iadau Solomon ydyw, y wybodaeth eang o'r natur ddynol y dangosant ei fod yn feddiannol arni. Rhydd brawf o*i wybodaeth braidd yn mhob braw- ddeg yn llyfrau y Diarhebion a'r Preg- ethwr; a phrawfhefyd nad rhyw wy- bodaeth arwynebol ydoedd. Gosodwyd ef mewn sefyllfa hynod o fanteisiol i gyrhaedd gwybodaeth hel- aeth a chywir o ddyn, a chynysgaedd- wyd ef a galluoedd meddyliol i dreiddio i mewn i ddirgeloedd ei natur. Ym- ddengys ei fod wedi cymysgu à phob math a gradd o ddynion, a'i fod yn Bylwedydd craff wrth wneuthur hyny, gan y dysgrifia gyda Uaw meistr bob teimlad cyffredin i ddynolryw. Ond ni chyfyngai ei astudiaeth i un ganghen o wybodaeth. Rhaid ei fod wedi astudio llawer ar lysieuaeth, ac ar y gwahanol ddosbarthiadau o anianydd- iaeth; canys dywedirei fod wedi "llef- aru hefyd am brenau, o'r cedrwydd sydd ar Libanus hyd yr isop a dyf allan o'r pared; ac efe a lefarodd am anifeiliaid ac am ehediad, ac am ymlusgiad ac am bysgod." Y mae yn debyg fod ei gyr- haeddiadau fel seryddwr yn fawr, gan y dywedir fod " ei ddoethineb," neu ei 29 wybodaeth, " yn fwy na doethineb holl feibion y dwyrain, ac na holl ddoeth- ineb yr Aifft." Pan feddylirfod meib- ion y dwyrain a'r Aifftiaid y pryd hwnw yn rhagori ar holl genhedloedd y ddaear mewn astronomyddiaeth, ac yn wir yn mhob dosbarth o wybodaeth, a bod Solomon yn rhagori arnynt hwy, casglwn mai efe oedd y mwyaf dÿsg- edig yn mhob peth yn y byd. Dywedir y dengys y manwl-adroddiad a gawn am y deml a'r amryw dai a ad- eiladodd, ei fod yn ymwybodol ofanyl- ion gwir egwyddorion adeiladaeth (ar- chitecture). Po mwyaf ddarllenir arei hanes, ac ar ei ysgrifeniadau, mwyaf dysgedig y mae yn ymddangos. Gall- wn gasglu oddiwrth ei weddi annghyd- marol ar gysegriad y deml, fod ganddo syniadau priodol am Dduw, ac yn hyn, debygwn ei fod yn rahell o flaen ei oes. Nid oedd yr Iuddewon, y pryd hwnw, wedi eu llwyr argyhoeddi nad yr unig wahaniaeth rhwng eu Duw hwynt a duwiau y Cenhedloedd o amgylch, ydoedd fod Duw Israel yn anweledig, a gwelent berffaith briodoldeb i bob cenedl alw ar ei Duw. Ond yr oedd gan Solomon wybodaeth llawer helaeth- ach na hyn. Dywed yn ei weddi, ** O Arglwydd Dduw Israel, nid oes Duw