Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y METHODIST. GOEPHENHAF, 1856. CYMERIAD—ANHYBLYGRWYDD AC YSTWYTHDER YN CAEL EU HARDDANGOS YN YR APOSTOL PAUL. Y mae yn sylw cyffredin, ond eithaf gwir, mai ìhagoriaeth cymeriad ydyw, cydgyfarfyddiad lled gyfartal o rinwedd- au cyferbyniol. A rhaid fod hwnw öydd yn cynwys ynddo ansoddau ag y gellir eu hystyried fel eithafoedd moes- oldeb, nid ynunig yn gymeriad da, ond hefyd yn gymeriad mawr. Y mae y dyn sydd yn amddifad o garictor—a chymeryd carictor fel yr hyn sydd yn gwneyd dyn yn wahanedig oddiwrth y lluaws—a'r carictor uwchaf, yn ym- debygu i'w gilydd mewn un peth—sef mewn anhynodrwydd. Y mae hynod- rwydd mewn cymeriad yn gynyrch nerth a gwendid mewn cydgyfarfydd- iad—yn epil mesur o allu a mesur o ffolineb. Pan glywn am ryw un a ystyrir yn hynod, yr ydym yn y fan yn penderfynu, nid yn unig ei fod yn fedd- iannol ar ragoriaethau, ond hefyd ar wendidau adiffygion. Yn y di-gymer- iad, nid oes ond gwendid, y mae yn amddifad o bob yni; nid yw fel gardd yn llawn o brenau ffrwythlawn, nac fel maes yn doreithiog o fieri ac ysgall, ond fel anialdir tywodlyd, heb nerth tyfol i gynyrchu dim. Holer yn ei gylch, nis gellir dywedyd dim am dano; byddai rhaid cymeryd yr hen ddull o lefaru yn nacâol wrth ymdrin am dano. Nis 25 gallech gadarnhau dim, nid yw y dyn ei hun yn ddim. Y mae llawero'n cyd- ddynion yn perthyn i'r dosbarth yma. Nid ydynt na da na drwg—call na ffol. Y mae yn gymaint o orchest iddynt lefaru ffoleddau mawrion, a llefaru doethineb. Nid yw eu holl ymddydd- anion yh ddim uwch nag îs na dylni. Y mae mor anhawdd iddynt allu ymos- twng at ddyfnderoedd ynfydrwydd, ag ydyw iddynt ymddyrchafu at y mawr a'r addurnol. Y rhai hyn, ar y cyfan, ydyw y bobl mwyaf diniwed a ded- wydd iddynt eu hunain. Nis gellir byth eu gwthio i ing, na'u codi i orfol- edd. Y mae rhyw wastadrwydd, fel llonyddwch cwsg, yn perthyn iddynt; a byddwn weithiau bron a dymuno na buasem yn un o'r fath blant. Ond, fel y crybwyllwyd, nis gall y brodyr hyn byth.wneuthur eu hunain yn hynod. Ac yn y pwnc yma, y mae y cymeriadau perffeithiaf, iryw raddau, yn debyg iddynt. Y mae eu ceinciau wedi eu naddu, pob bryn wedi ei os- twng, a phob pant ei gyfodi; y gŵyr wedi ei wneyd yn uniawn, a'r anwas- tad yn wastadedd. Ondy mae anhyn- odrwydd y ddau ddosbarth yn cyfodi oddiar achosion tra gwahanol—y naill oddiar ddiffyg a gwendid, y llall oddi-