Skip to main content

Y METHODIST. MAI, 1856. Y WEINIDOGAETH YN MHLITH Y METHODISTIAID. Gbllid meddwl mai cwestiwn mawr ein dyddiau ni yw y weinid- ogaeth—pa fodd yr ydym i ymddwyn yn deilwng tuag ati, er ei chynal a'i gwneyd yn fwy effeithiol, h.y., gwneyd yr hyn a allwn ni er ei heffeithioli. Yr ydys yn barnu yn ddifrifol fod ys- gogiad yn mlaen yn anhebgorol er parhad bywyd crefydd yu ein cyfun- deb, yn gystal ag er ei gynydd a*i lwyddiant. Y mae yn ddywediad mynych gan rai pobl, fod y naill gyf- undeb ar ol y llall yn y byd Cristion- ogol, wedi cyraedd oedran penodol, megys can mlynedd, yn adfeilio, ac yn gwywo o hyny allan, a phob yn ronyn yn Uwyr ddarfod, fel pe byddai hyny yn dynged anochéladwy iddo. Nis gallwn weled pethau yn yr un goleuui a'r rhai hyn; ond credu yr ydym fod yr Arglwydd yn ymddwyn at gorffor- iaeth o ddynion fel y mae yn ym- ddwyn at ddyn yn unigol, yn ol an- sawdd ei gaíon, a gweithredoedd ei fywyd. Os encilia cyfundeb o ddynion oddiwrth Dduw—os esgeulusant wir- ioneddau ei air ef, yn athrawiaethol neu yn orchymynol, y mae y canlyniad a nodwyd yn sicr o fod. O'r tu arall, os caiff Duw ei le ei hun yn eu cyfun- drefn, a'i air yr orsedd yn eu holl symudiadau—os ymroddant i gadw pob peth a orchymynodd Mab Duw 17 iddynt, wele y mae ef gŷda hwy bob amser hyd ddiwedd y byd. Y mae amser yn dwyn cyfundeb, fel dyn unigoì, i amgylchiadau newyddion, a gair yr Arglwydd yn galw ar aelodau y cyfundeb hwnw at ddyledswyddau newyddion, priodol i'r amgylchiadau hyny. Ymddengys yn eglur fod din- ystr llawer cyfundeb wedi tarddu o hyn; fod dynion, ì'e, llawer o ddynion da, yn dylyn defodau yr amgylchiadau blaenorol, y rhai oedd weddus yn y rhai hyny, pan y mae yr Arglwydd wedi eu dwyn i rai hollol newydd; can- molant yr hen a beiant y newydd; ond dylentgofio y dichon iddynt wrth feio y néwydd, feio Duw, yrhwn sydd ynein dwyn yn barhaus i amgylchiadau new- yddion. O'r bron na chawn yr un rhai yn addoli yr hen bobl, am wneyd gwaith eu dydd hwy mor ragorol; ond con- demniant hwy yn weithredol, trwy esgeuluso cyffwrdd â gwaith pwysig eu diwmod eu hun. Nid gwaith y gwanwyn yw gwaith yr haf, ond y mae yr haf yn dwyn gydag ef ei waith ei hun—gwaith a bar chwys a lludded. Y mae rhagluniaeth Duw wedi ein dwyn ninau, fel cyfundeb, i amgylch- iadau newyddion; ac ofer meddwl bellach am wneyd yn unig yr hyri, ac fel y gwneid yn yr oes a aeth heibio. Y mae ein tymhor newydd yn gyflawn