Skip to main content

Y METHODIST. MAWRTH, 1856. PREGETH ANGLADDOL Y PARCH. JOHN EVANSt REDRUTH, CORNWALL. CAN DANIEL ROWIANP. " Ei haul a fachludodd tra yr oedd hi yn ddydd."—Jeh. xv. 9. Y mab John Evans wedi ei gladdu! Byddai yn werthfawr i ni gael doeth- ineb i sylwi ar yr addysg sobr a dros- glwyddir i ni yn ei ymadawiad; a gwn na chymerwch yn anngharedig ar gyf- aill ei faboed, os teimla yn awyddus i daenu ychydig flodau ar ei fedd. Y mae marw yn beth cyffredin—mor gyffredin a byw. Y mae pawb yn marw. Yr ydym yn colli rhyw rai o'n hamgylch yn wastadol. Y mae yn rhyfedd meddwl, wrth i ni daflu ein llygaid ychydig yn ol, gynifer o'n cyf- eillion a'n cydnabod sydd wedi eu " gorchfygu yn dragy wydd—a'u danfon i ffordd." Y maent yn syrthio o un i un, yn ein dysgu i deimlo fod llwybr y glyn yn "ffordd yr hoìlddaear." Bydd- em yn edrych ar rai, pan oeddym yn blant, fel pe na buasent i farw byth. Yr oeddynt yn hen pan ddaetríom gyntaf i'w hadnabod; yr oeddynt yn iach a chryfion, fel nad oedd treigliad cryn nifer o flynyddoedd yn gwneyd fawr o argraff arnynt; yr oedd llawer o honynt hefyd yn bobl o ddylanwad a phwysigrwydd, yn llenwi lle, naill ai yn y byd, neu yn yr eglwys, neu fe allai yn y ddau, na ddeallid yn iawn sut y byddai yn bosibl eu hebgor. Ymddang- hosent rywfodd wedi gwreiddio yn y byd, a pharent i ni deimlo braidd eu bod i fod ynddo byth. Ond yr ydym yn eu colli hwythau. Y mae gwynt marwolaeth yn cwympo y cedrwydd gyda'r un rhwyddineb ag y mae yn dryllio y gorsen, neu yn deifio yr egin. Y mae pawb yn marw. Y mae y cen- hedlaethau yn syrthio fel cwympydail. Nid yw yn angenrheidiol i'r corwynt ofnadwy ddyfod heibio i'r dail, i'w hysgythru ymaith a'u lluchio i'r llawr; na, y maent yn crino, yn colli eu gafael, ac yn syrthio eu hunain, a hyny yn nghanol y tywydd têg, pan y mae natur yn gwenu yn ei serchogrwydd mwyaf. Y maent eu hunain yn hanfodol ddar- fodedig, ac felly y mae mor naturiol iddynt syrthio, ag ydyw iddynt dyfu. Felly y mae dynion. Nid oes eisiau i'r march dû eu lletbu dan ei garnart ofnadwy—nid oes eisiau iddynt gaeleu bwyta gan yr haint—nid oes eisiau rhyfel, gydag awch y cleddyf a'r bidog, a rhwysgdychrynllydy ganon a'rshell, i'w cymeryd ymaith; y maent yn marw