Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

>v Y METHODIST. CHWEFROE, 1856. YR EPISTOL AT Y COLOS3IAID. (PARHAD O'R RHIFYN DIWE»DAF.) Perygl mawr arall ag yr oedd yr Eglwys yn Colossa, fel yr Eglwysi Cristionogol yn gyffredinol yn yr oes hòno, yn agored iddo, ydoedd Iuddew- iaeth; ac y mae yn dra thebyg fod y gau-athrawonjtaddewaidd yn gwneyd pob ymdreclf er cyfaddasn eu dysgeid- iaeth at y syniadau athror.aidd y rhai oeddynt yn ffynu mor gyffredinol yn y wlad a'r oes hòno. Ond pa fodd bynag, y mae yr Apostol yn amcanu gwrthweithio dylanwad y gau-athraw- on hyn, trwy ddangos i'r Colossiaid fod tymhor yr oruchwyliaeth Iuddewig bellach wedi dyfod i ben—nad oedd yr holl ddefodau a'r seremon'iau a ber- thynent i'r oruchwyliaeth - hòno yn ddim ond " cysgod pethau i ddyfod "— "corff," neu " sylwedd," y rhai yd- oedd " o Grist," pen. ii. 17—a bod yr oruchwyliaeth hòno, yr hon yr ydoedd ei hiau mor drom, yr hon oedd mor gaetha phoenus, a llawn o ddefodau,— ei bod, yn marw .eth Crist, wedi ei " hoelio wrth y t.oes," i ddangos ei bod wedi myned allan o rym am byth, mewn cyfeiriad, y mae yn debyg, at hen arferiad yn y dwyrain:—pan y byddai ymrwymiad neu gytundeb wedi ei gyflawni, byddai raid i'r gofynwr yru hoel drwy ysgrifen y cytundeb, a 1 gosod i fyny ar bren, mewn lle cy- hoeddus, er mwyn dangos i bawb fod yr ymrwymiad wedi colli ei rym—fod holl amodau y cytundeb wedi. eu cyflawni. Felly y dywed yr apostol fod yr Arglwydd Iesu Grist, yn ei far- wolaeth, wedi "dileu ysgrifen-law yr ordeiniadau, yr hon oedd i*n herbyn ni, yr hon oedd yn ngwrthwyneb i ni, ac a*i cymerodd hi oddiar y ffordd, gan ei hoelio wrth y groes," pen. ü. 14. A'r defnydd ymarferol y mae yr Apostol yn ei wneyd o hyn ydyw,— " Am hyny na farned neb arnoch chwi am fwyd neu am ddiod, neu o ran dydd gŵyl, neu newydd-loer, neu Sab- bathau: y rhai ydynt gysgod pethau i ddyfod, ond y corff sydd o Grist," pen. ii. 16, 17. Y trydydd peth ag yr oedd lluaws o'r eglwysi yn yr oes apostolaidd mewn perygl mawr oddiwrtho, ydoedd Pa- ganiaeth. Yr oedd y byd Paganaidd yn y cyfnod hwn, ac er's oesoedd cyn hyn, er holi ymffrost athroniaeth Groeg a Rhufain, wedi suddo i'r cyflwr isaf ag yr oedd yn bosibl i ddynoliaeth syrthiedig fod ynddo. Yr oedd cen- hedloedd paganaidd y byd yn ymdroi