Skip to main content

Y METHODIST. IONAWR, 1856. UN MIL WYTH GANT A PHYMTHEG A DEUGAlN. Wrth ddymuno blwyddyn newydd dda i'n darllenwyr, ni obeithiwn nad anhyfryd ganddynt a fydd dyfod gyda ni i edrych unwaith eto ar yr hen a'i deuddeg mis a'i thri chant a thriugain aphump o ddyddiau, i weled beth a wnaethom ni ynddi, a pha beth a wnaeth hithau i ninau ac i'r byd. Er ei bod hi wedi ymadael, ac ymadael am byth, ond odid na byddai cyfrif ei dyddiau trosodd unwaith eto, yn fantais i ni i ddwyn ein calonau i ddoethineb. Y mae arnom ofn nad ydyw y dyn ddim i'w gael yn mhlith ein darllenwyr, sydd wedi treulio ei holl ddyddiau hi mor berffaith, nad ydyw cofio yr un o hon- ynt yn ochenaid iddo. Mewn llawer o bethau yr ydym ni oll yu llithro, a phe adolygem ein hoes yn amlach byddai eiu ílithriadau yn anamlach o lawer. Y fath drysorau o wybodaeth a allasai fod yn ein meddiant, pe defnyddiasem yr ugeiniau o oriau a lithrasant o'n cyrhaedd ond odid heb eu defnyddio y flwyddyn ddiwe.ddaf ? Y fath swm o ddaioni a allasai fod wedi ei wneuthur genym i'n cyd-ddynion, pe buasai pob adeg gyfaddas i hyny, a gafwyd yn ystod y flwyddyn wedi ei defnyddio? Pa faint o ddoethineb er cyfarwyddo ein ffyrdd yn y flwyddyn ddyfodol, a allasem fod wedi ei gasglu genym yn yr amiywiol amgylcfiiadau y buom yn- ddynt, pe buasai pob un yn darllen af y pryd y wers oedd yn eglur argraff- edig arnynt? Pa faint gwanach y gall- asai y drwg sydd yn ein mynwes fod, a pha faint cryfach y gallasai y rhin- wedd fod nag ydyw pe defnyddiasem bob cyfle a gawsom i ladd y naill ac i feithrin y llall ? Y mae y flwyddyn a'i chyfleusderau euraidd wedi myned heibio. Yr hyn a gamwyd ynddi wedi myned yn rhy bell o'n gafael i'w un- ioni byth, a'r hyn oedd ddiffygiol wedi myned yn rhy bell i*w gyfrif. Ond tra y galarwn ni am golliadau y flwyddyn, gochelwn rhag eu cymeryd yn achlysur i ddywedyd "Nid oes obaith," ac ieis- tedd i lawr mewn anwybodaeth, a diogi, a drwg: yn hytrach cymerwn hwynt yn rheswm tros wylio arnom ein hun- ain yn fwy manwl nag erioed, rhag i'r flwyddyn hon eto gael ei llychwino gan yr un colliadau. Cofìwn bob dydd fod rhinwedd a gwybodaeth yn gyrhaedd- adwy i ni oll, ond mai pris y naill a'r llall ydyw ymdrech cyson a pharhaus. Ond cyn i ni grybwyll ychydig o la- wer o brif bethau y flwyddyn, goddefer i ni ddywedyd gair am danom ein hun- ain. Ac yn y lle cyntaf, y mae genym i ddiolch i'n darllenwyr, am y mesur o gefnogaeth a gawsom ganddynt. Nid oeddym yn y cychwyn wedi addaw ne- mawr, ond y gwnaem ein goreu heb