Skip to main content

\y Y METHODIST. RHAGFYE, 1855. WILLIAM ELLIS, MAENTWROG. Wedi rhoddi ychydig o hanes William Ellis o'i febyd hyd ei ddyfodiad i'r eglwys, yn ein rhifyn diweddaf, awn rhagom yn awr, i osod gerbron ein darllenwyr ychydig adgofion am dano fel Cristion a swyddogeglwysig. Wrth wneyd hyny yr ydym yn troi allan i anialwch disathr. O'r blaen yr oedd genym ychydig arwyddion ffordd, yn awr nid oes nemawr un; o herwydd hyn y mae yn anmhosibl gwneuthur ei hanes yn un wê gyfan; bydd raid i'r darllenwyr foddloni ar ddarnau heb ond ychydig gysylltiad rhyngddynt. Pe buasai amgylchiadau mawrion yn ei oes, gallesid crogi y pethau llai o amgylch y rhai hyny, ond gan'nad oedd, ac iddo dreulio ei oes grefyddol oll yn yr un eglwys, a chyda dim ond un eithriad, yr oedd hòno oll mor debyg i'w gilydd, ag y gall oes Cristion, yr honsydd fel y goleuni yn llewyrchu fwy-fwy hyd hanner dydd, fod. Yr eithriad hwnw ydoedd ei ddewisiad gan yr eglwys i fod yn flaenor. Gwnawd hyn yn lled foreu ar ei grefydd, ond ni ddygwyddodd dim trwy ystod ei daith i brofi fod yr eglwys wedi methu yn ei dewisiad, nac ychwaith, ei bod hi wedi ei ddewis yn rhy foreu. Pe buasai dewis blaenorìaid yn cymeryd lle yn flynyddol, yn Ue unwaith am oes, dewisasid ef bob tro gyda pharodrwydd adnewyddol. Nid pawb o'i frodyr a ddaethent allan yn ddigolled o'r fath brawf. Nid ydyw yr amgylchiadau a arwein- iodd i hyn yn hysbys i ni, ond rhoddodd ef ei hun yr hanes canlynol am hyny i bregethwr a ofynodd iddo ar brydnawn Sabboth yn nhy'r capel " A ydych chwi yn meddwl fod genych grefydd dda William Ellis î" " O nag oes," meddai yntau, " Mr. P. bach." " Beth sydd yn peri i chwi feddwl felly ?" " Wel fy nghalon ddrwg Mr. P. bach." " A ydyw eich calon chwi yn un ddrwg ?" " Ydyw y waethaf yn y gymydogaeth." " Wel pa fodd y cawsoch chwi eich gwneyd yn flaenor, a'ch calon yn waeth na chalon pawb î" " Wel tipyn o bobl ddiniwed iawn oedd yma, a minau yn bur arw am 8twffio yn mlaen, felly y cefais i fy ngwneyd ganddynt." "Wel tybed y gwnaech chwi deimlo pe diswyddid chwi?" "Beth sydd na wna calon ddrwg Mr. P. bach." Nid oeddneb yn rhyddach nag y bu ef drwy ei oes oddiwrth duedd i stwffit ; er y siaradai yn y Cyfarfod Misol a'r Cymanfaoedd, ni wnai hyny heb daer-ofyn iddo, ac ni chly wsom ond am un ' erioed wedi amheu ei fod yn gwneuthur hyn ond oddiar y cymhelliadau puraf. Wedi iddo siarad un tro, yn agos i ddiwedd ei oes, gyda nerth digyflelyb yn un o Gymanfaoedd Sir Gaernarfon; ar ol