Skip to main content

Y METHODIST. TACHWEDD, 1855. WILLIAM ELLIS, MAENTWROG. Gwasanaetha y tebygolrwydd sydd mewn dynion i'w gilydd, a'r gwahan- iaeth sydd rhyngddynt â'u gilydd, y ddau ddyben pwysig o gadw amryw- iaeth digonol yn y natur ddynol, i'n hattal i golli ein dyddordeb ynddi, ac o gadw unffurfiaeth digonol i attal i'r amrywiaeth hwnw ein dyrysu. Porthir yr awydd sydd ynom atn rywbeth ne- ■wydd gan y gwahaniaeth sydd rhwng dynion â'u gilydd; a phorthir y duedd sydd ynom i drefnu a rhestru gan y te- bygolrwydd. Tuedda stâd uchel o wareiddiad i wneuthur dynion mor debyg i'w gilydd fel coed planigfa fel na bydd nemawr ddim iwahaniaethu y person unigol oddiwrth y lluaws; tra y tuedda y diffyg o hyny i beri fod cy- maint o neillduolion yn perthyn i bob un, fel coed y fforest, nes y gwnant gymdeithas yn anialwch dyryslyd. Byddai colli y naill neu y llall o'r pethau hyn yn tylodi cymdeithas yn fawr, a thybia rhai fod nodweddion y person unigol yn cael eu colli yn ormodol yn awr, a'i fod yn cael ei wneuthur fel drychiolaeth Eliphaz yn gyfryw "nad adwaenaineb ei agwedd." Os gwir hynyna, y mae yn bleser tra amheuthun i ni gyfarfod âg ambell un fel pren gwyllt coedwig heb i arf gy- ffwidd àg un o'i gangheuau na llaw ysturaio dim arnynt i'w gwneuthur yn 41 debyg i rai ereill; ac un felly ydoedd William Ellis. Ni rifid ef gyda'r cen* hedloedd mewn dim. Yr oedd iddo nodweddiad o'i eiddo ei hun, a hwnw yn llawn hynodion. Er y cydymffurf- iai âg ereill, eto yr oedd ynddo ryw beth oedd yn ei wneuthur yn ddidol- edig oddiwrth bawb. Nid ydym yn gobeithio medru ei ddarlunio yn hyn o ysgrif, ond gosodwn gerbron ein dar- llenwyr ychydig adgofion am dano a gawsom gan un ac arall a'i hadwaenent yn dda. I'r rhai nad oeddynt yn ei adnabod ef yn bersonol, ofnwn na byddant o nemawr ddefnydd; ond i'r rhai a'i hadwaenent, gallant, fel siaced fraith Joseph i Jacob, ei alw ef ei hum gerbron eu meddyliau, a dwyn llawer o'i ragoriaethau i'w côf. Gorchuddir yr 20 mlynedd cyntaf o'i oes gan niwl: difyr genym a fuasai ei olrhain trwy daith mebyd ac ieuenctid, a diau y gwelsem wrth wneuthur hyny fod y plentyn yn dad y dyn^fod hadau yr hynodion oedd ynddo fel dyn i'w canfod ynddo yn blentyn. Ond credu yr ydym am dano ef mai crefydd a ddeffrodd ei enaid gyntaf, ac mai de- chreuad doethineb iddo ef ydoedd ofn yr Arglwydd, ac y gallasai fyned trwy y byd dan hanner cysgu oni bae i oleuni byd ysbrydol ei gwbl ddeffroi o'i gwsg; wedi hyny;amlygodd einerth.