Skip to main content

(b Y METHODIST MEDI, 1855. AWSTIN, O HIPPO. Pen. V.—Yn Astudio Paul, ac yn cael ei Ddychwelyd. Parhaodd Awstin i fod yn wran- dawr astud ar Ambrose, a chyrchai yn fynych i'w dŷ i osod ei amheuon a'i gwestiynau gerbron ei syiw. Dechreu- odd yn awr werthfawrogi y Beibl, a chael rhyw syniad am ei wirioneddau. Ond yr oedd ganddo rai ystormydd eto i'fyned trwyddynt cyn cyrhaedd y porthladddymunolagyroeddpobystorm yn cydweithio yn ddiarwybod iddo ef, i'w ddwyn yn nes ato. Ffuifiodd ef ac ychydig gyfeillion fath o "Undeb Phi- Ìo8offaidd"-a phob peth ganddynt yn gyffredin—i'r dyben o lwyr ymroddi i chwilio am y gwirionedd. Ac yn yr Undeb yma y ceisiai Awstin yr hyn nas gall dim ei roddi ond Cristionogaeth yn unig. Cyn hir, pa fodd bynag, dryll- iwyd yr Undeb, ac aflwyddodd y cyn- llun, oblegid nis gallasai yr aelodau gyduno o barth i'r cwestiwn, Pa un a ddylid gwahardd priodas yn eu plith ai peidio. Dadleuai Alypius yn erbyn, ac Awstin o blaid, priodas; ac yn yr an- nghytundeb hwn, darfyddodd y Gym- deithas. Tueddid meddwl Awstin y pryd hwn at sefyllfa briodasol, a chefn- ogid y duedd gan ei fam. Er fod byw- yd dibriod yn cael edrych arno yn uchel gau Monica, eto yr oedd afreoleidd-dra blaenorol ei mab, yn peri ei bod yn dra awyddus am iddoef fyned i'r rhwymyn SS priodasol. Edrychai y fam a'r mab yn ddyfal am ryw ferch a wnai wraig iddo; ond o herwydd rhyw resymau, buont eu dau yn aflwyddiannus, a threuliodd Awstin ei oes heb briodi. Oddeutu yr amser hwn. ymadawodd â'r ferch y bu- asai am dair-ar-ddeg o flynyddoedd yn cyd-fyw â hi, a chymerodd Adeodatus y bachgen dan ei ofal ei hun : ond nis gallasai fyw yn bur ar ol hyn. Gallem feddwl fod uchelgais ac aflendid wedi ei ddwyn yn gwblgaethiddynt eu hun- ain. Yr oedd yr eithafion pellaf yn cyfarfod yn ei gymeriad—teimlai yn nghorff yr un diwrnod ymestyniad ac awyddfryd angherddol am y ddoethineb a'r daioni puraf, ond nid oedd ei awydd- fryd am yr hyn sydd bur a da yn ddigon o ddiogelwch iddo rhag syrthio i'r pyll- au ffìeiddiaf. Blinid ef eto yn fwy gan ei amheuon duwinyddol, neu athronyddol yn hyt- rach. Myfyriai y cwestiwn sydd yn cael ei fyfyrio eto gyda llawn cymaint o aflwyddiant—y cwestiwn am dde- chreuad drwg moesol. Cadamhäai yr eglwys mai yn ewyllys y creadur y gwreiddia drygioni. Ond gofynai Aws- tin, Ainid y posibilrwydd i bechu sydd yn perthyn i*n hewyllysydywffynnonell pechod ? Ac onis gallasai Duw greu yr ewyllys yn y cyfryw fodd, fel ag i