Skip to main content

|U Y METHODIST. AWST, 1855. DWYFOLDEB Y BEIBL. " Nid fel gair dyn (eithr fel y mae yn wir) yn air Duw." An un olwg, y mae yn ymddangos yn ddiangenrhaid ysgrifenu dim ar y testyn uchod yn Nghymru, canys yr ydym fel cenedl, naill ai yn cymeryd y pwnc yn ganiataol neu yn ei gredu; y mae gan filoedd yn Nghymru gredin- iaeth mor ddiysgog yn nwyfoldeb y gyfrol santaidd', fel nas gall y gwrth- wynebiadau mwyaf mo'u hysgogi, a hyny heb yrun sail i'w crediniaeth ond dylanwad ysbrydol y gwirionedd o'u mewn; adiau mai dyna yprawfcad- arnaf a ellir gael byth, oblegid nis gall dim ddwyn mwy o sicrwydd i feddwl dyn na phrofìad. Ac i'r cyfryw, y mae pob prawf a ellir ddwyn yn mlaen trwy re8Wm yn ddiangenrhaid. Ond y mae dau ddosbarth arall yn y wlad, —un fel Galio, "heb ofalu dim yn nghylch y pethau hyn," a'r llall fel y Bereaid, yn "edrych a ydyw y pethau hyn felly." Y mae ieuenctid ein gwlad ganmwyafi'w cael yn y naill neu y llall o'r dosbeirth hyn. Y mae o'r pwys mwyaf i'r cyfryw fod wedi ym- gadarnhau yn athrawiaeth fawr yr ef- engyl, yn enwedig pan ystyriom fod ysbryd ymchwilio yn cynyddu yn mhlith gwrthwynebwyr crefydd y Tes- tament Newydd, y rhai sydd yn dyfod ynnes atom, ac yn cymysgu mwy à ni, y naill flwyddyn ar ol y llall. Y aae yr ysbryd hwn fel pe bae yn cael 29 estyn ei gadwyn yn raddol y blyn- yddoedd hyn i ddyfod i gynhyrfu Cy- mru o'i chyseadrwydd moesol. Ac ni raid i ni ryfeddu os bydd, cyn« ne- mawr o ddyddiau, wedi ymweithio yn ddystaw megys i ganol ein paradwys, ac y gwnaiff ryw ddifrod mawr cyn y ceir ef allan. A phe byddai y fath beth a hyny yn bod y blynyddoedd hyn, nid oes genym i'w ddysgwyl ond y byddai ein hieuenctid wrth yr ugeiniau yn cael eu llithio i ddinystr. Ond pa fodd bynag am hyny, nis gallwn beidio edrych gyda graddau o arswyd ar y lluaws sydd yn cael eu trosglwyddo gan amgylchiadau, ofro eu genedigaeth i gyrhaedd hudoliaethau y gelyn, heb feddwl ond ycbydig erioed pa fodd i wrthsefyll yr un drwg. Nid ein hamcan yn hyn o ysgrif yw gosod i lawr yn gyflawn y rhesymau ellir ddwyn yn mlaen o blaid dwyfol- deb y Beibl, ond ceisio dwyn ystyr- iaethau y darllenydd ieuanc at y pwnc, trwy grybwyll ychydig o lawer o'r profion sydd yn ymddangos yn eglur o'n blaen; a hyny i'r dyben o roddi rhyw gyfarwyddyd i'r meddwl ystyriol i fod yn barod i roddi rheswm dros yr athrawiaeth a broffesa. Y mae y diafol yn gweithio trwy y meddwl yn gystal a thrwy y nutydaú a[r aelodau ; ac y mae yn angenrheidiol i ninau ym»