Skip to main content

J* Y METHODIST. GORPHENHAF, 1855. NINEFEH. Yr oedd yr ychydig hanes oedd gen- ym am Ninefeh i'r cywrain a'r ymchwil- gar yn dra dyddorol. Cydgyfarfyddai amrywiol bethau ynddo i'w wneuthur felly. Yr oedd henafiaeth y ddinas, ei maint, yn nghyda'r mesur o dywyllwch oedd o amgylch yr hanes yn ei wneuthur felly. Trosglwyddid y meddwl gan ei henw yn ol, bron i oes y diluw—i'r amser pan oedd y byd yn ieuanc, neu o'r hyn Jleiaf y gymdeithas ddynol yn ei hieuenc- tid. Yr oedd ei maint, wedi iddi gyr- haedd ei pherffeithrwydd yn naturiol dynu sylw y meddwl—y fwyaf o ddinasoedd yr hen oesoedd, mwy hyd yn oed na Babilon, ac os bernir hi wrth faint y lle y safai arno, nid ydyw dinasoedd mwyaf y byd yn awr ond bychain o'u cydmharu â hi. Yr oedd y tywyllwch oedd o amgylch y lle y safai arno, a'i dinystr, yn swyno y meddwl ym- chwilgar i geisio drachefn a thrachefn dreiddio drwyddo, hyd nes y lladdwyd pob tuedd i hyny gan anobaith llwyddo. Dygîr hi gerbron megys yn ddamwein- iol yn Uyfr Genesis yn gysylltiedig â Ni- mrod ac Assur. Yn mhen o gylch 200 míynedd y mae amgylchiad yn cymeryd Ue yn nyddiau Abraham sydd yn ei dwyn gerbron y meddẃl drachefn er nad ydyw yn cael ei henwi. Yn mhellach yn mlaen 25 eto daw i'r golwg yn mhroffwydoliaeth Balaam. Yna y mae y gyfrol santaidd yn ddystaw yn ei chylch am dros fil o flynyddoedd, erbyn hyn y mae wedi dyfod yn ddinas fawr, yn daith tri diwrnod. Y mae ei hanes o'r amser yna hyd ei chwymp yn blethedig mewn rhan âg nn Israel. Y mae ei byddinoedd hi yn goresgyn gwlad Israel Uawer gwaith, ac y màe proffwydi Israel, Jona, Nahum, Esay> a Zephania yn cyhoeddi eidinystr hi; ac yr oedd hwnw yn un mor llwyr fel yr oedd y lle y bu hi yn sefyll arno yn an- adnabyddus er's miloedd o flynyddoedd. Cawn, yn fyr, olrhain codiad y ddinas i'w mawredd, yna edrych ar ei chwymp, wedi hyny rhoddi hanes rhai o'r dargan- fyddiadau diweddar a wnaed yn mhlith ; ei hadfeilion; ac, yn olaf, gyfeirio y dar- llenydd at y goleuni a deflir ganddynt ar ! wirionedd y Beibl. Yr ydym yn cael hanes ei hadeiladu yn Gen. x. 11, yr hyn a fu yn mhen tua 100 mlynedd ar ol y diluw, a 2230 o flynyddoedd cyn Crist. Yr ydoedd Nim- rod, un o hiliogaeth Ham, wedi aros yn nghymydogaeth Bábel ar ol cýmysgiad yr ieithoedd. Tybir gan raî mai efe oedd blaenor y llu drygionus a godasant y twr. hwnw; ond beth bynag am hyny, y niae