Skip to main content

oT Y METHODIST. MEHEFIN, 1855. CONSTANTINOPLE. Y mae dinasoedd mawrion fel dyn- ion mawrion wedi cario dylanwad ehelaeth ar y byd yn mhob oes. Y maeyr hyn ydyw heddyw, mewn ystyr grefyddol, wladol, a llênyddol, i'w briodoli iddylanwad ychydigbersonau. Beth a fuasai Prydain yn awr mewn rhyddid gwladol oni bae am Cromwell a'r Puritaniaid? neu Gyfandir Ewrop oni bae am chwildroad Ffrainc a rhuthr-gyrch Napoleon, yr hwn, fel corwynt, a ysgubodd ymaith bob hen derfyn o'i flaen ? Beth a fuasai y byd heddyw mewn crefydd; oni bae am Luther, Melanchthon, a Calfin ? Beth mewn gwybodaeth pe na buasai en- wogion Groeg a Rhufain yn y cynoes- oedd; nac athronwyr, na beirdd, na haneswyr yr oesoedd diweddaf wedi bod ynddo? Y mae dylanwad dinasoedd mawr- ion yn perthyn yn agos i ddylanwad dynion mawrion. Trwy y cyntaf y mae yr olaf yn cael ei ledaenu. Yr oedd Plato yn ogoniant i Athen, yr oedd Athen yn fantais i Plato. Y mae y dyn raawr, trwy ddylanwadu ar y ddinas, yn ennill o'i blaid filoedd o feddyliau gwanach na'r eiddo ef ei hun; ond y mae pob un o honynt fel drych i adlewyrchu ei oleuni ef. Y mae hyn yn gwneuthur y Uewyrch yn fwy tanbaid—yn gwneuthut llewyrch yr haul fel saìth o ddyddiau. 21 Fe ddywedir mai Paris ydyw Ffrainc; ei hopiniynau a'i dulliau hi sydd yn Hywodraethu yn mhob cwr o'r ymherodraeth: ffurfir y rhai hyn gan ychydig bersonau, disgynant oddi- wrthynt hwy at ddosbarth îs, fel yr afon o'r mynydd i'r dyffryn, ac ym- weithiant felly trwy gymdeithas gyff- redinol. Y mae pob dinas fawi yn dylanwadu yn gyffelyb i Paris, er, efallai, nad i'r un graddau. O her- wydd hyn y mae olrhain hanes dinas- oedd mawrion, yn olrhain hanes rhanau ehelaeth o'r byd. Gall nad anny- munol gan ein darllenwyr a fydd.i ni amcanu gwneyd hyn â Constantinople. Y mae ei chysylltiad hi â'r achos o'r rhyfel presenol wedi tynu sylw cyff- redin ati, a chreu dyddordeb mawt ynddi; ond y mae hi yn teilyngu sylw yn annibynol ar y pethau hyn. Yn mysg dinasoedd roawrion y byd y mae hi wedi bod yn un nid anenwog ar amryw gyftifon. Er nad oedd crefydd wedi rhoddi mawredd arni fel ar Je- rusalem, nac athroniaeth fel ar Athen, na llywodraeth eang am oesoedd fel ar Rufain, na masnach fel ar Alexandria, eto o ran prydferthwch sefyllfa, dy- munoldeb hinsawdd, a mantais i fod yn brif-ffordd masnach y byd, nid oedd yn ail i'r un ddinas ar y ddaear. Yr oedd ei sefyllfa mewn ystyr fasnachol yn ei gwneuthur yn gyffelyb i Tadmor