Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

/ oT Y METHODIST EBBILL, 1855. Y PARCH. EVAN EVANS, CAERLLEON, (Ieuan Glan Geirionydd). Nid oes ond ychydig, hwyrach, ag sydd i ryw fesur yn gydnabyddus â Henoriaeth Gymreig nad ydyw enw Ieuan Glan Geirionydd yn adnabyddus iddynt. Y mae bellach er's mwy na deng mlynedd ar hugain wedi cyrhaedd a chadw safle lled uchel fel bardd a llenor, a hyny ar lai o lawer o drwst nag y mae ambell un wedi ei wneuthur, yr hwn wedi yr holl helynt nad yw y wlad yn caniatâu iddo eistedd un gradd yn uwch na'i ystôl droed ef. Ond y mae wedi gorphen ei yrfa ar y ddaear, a darfod â holl orchestion y byd hwn. Ganwyd Mr. Evans mewn lle o'r enw Tanycelyn, yn ardal Trefriw, ger Llanrwst, yn y flwyddyn 1796. Cafodd ei ddwyn i fyny o'i febyd " yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd." Yr oedd ei fam yn un o'rgwragedd mwyaf gwy- bodus a choethedig yn y wlad, a thrwy ei hymdrech a'i gofal hi, cafodd yntau fwynhau y manteision goreu oedd yn yr ardaloedd hyny arypryd.i gyrhaedd dysg. Yr oedd ei dad yn flaenor gyda'r Methodistiaid, a dewiswyd yntau i'r un swydd pan nad oedd eto ond lled ieuanc. Bu yn dra llafurus yn yr adeg ymagyda'rieuenctid, yr YsgolSabboth- ol, a'r canu, ac yr oedd yn ymhyfrydu cryn lawer mewn barddoniaeth. Y pryd hwn daeth cynygiad o wobr o ddeg punt am y farwnad oreu am y 13 Dywysoges Siarlot. Canodd yntau alar- gan, ac anfonodd hi ymaith heb ddim ond ffug enw wrthi, a bu am tua blwydd- yn heb glywed dim yn ei chylch, hyd nes yr aeth i Gaerlleon i gynorthwyo y diweddar Barch. J. Parry yn ngolyg- iaeth y Goleuad. Wedi myned yno deallodd mai yr eiddo ef oedd y fudd- ugol, pryd y derbyniodd y wobr, ac annogaeth oddiwrth Arg. Mostyn i fyned yn mlaen. Tra y bu yn Nghaer cyfieithodd bregethau Hirion, achyfan- soddodd draethtdyn mewn atebiad i Samuel Davies, yn erbyn Arminiaeth. O herwydd fod ei iechyd yn gwaelu gorfu arno ddychwelyd i'w fro enedigol, a'r pryd hwnw y canodd ei awdl ar " Hiraeth Cymro" i Eisteddfod Gwrec- sam, yn y flwyddyn 1820. Ar ol ennill yno, cafodd annogaeth gan ryw fonedd- igion i ymddarparu gogyfer a derbyn urddau Esgobol. Anfonwyd ef am dymhor at offeiriad Aberyw, yn Sir Drefaldwyn, ac oddiyno i St. Bees. Wedi treulio rhyw ysbaid yno ordein- iwyd ef gan esgob Caer, lle y bu yn gweinidogaethu am beth amser fel darlithydd Cymreig. Yn fuan cafodd le i fyned yn guwrad i.Christleton, a bu yn llafurio yno am o 'gÿlch pymtheg mlynedd gyda chÿrrieradwyaeth; ond ar ol marwolaeth y 'rector symudodd i Ince. Tra y bu yn y lle hwn bu farw ei wraig, ac wedi hyny ei dad yn Nhref-