Skip to main content

Y METHODIST. MAWRTH, 1855. AWSTIN, O HIPPO. Pen. II.—Blynyddoedd ei Ieüenctid. Yn ein rhifyn diweddaf, nid aethom yn mhellach na hanes rhieni Awstin; edrychwn yn awr ar faboed ac ieu- enctid mab y nwydog Patricius, a'r dduwiolfrydig Monica. Etifeddodd y bachgen dueddiadau anifeilaidd cryfion oddiwrth ei dad, i'r rhai yr ufyddhaodd i raddau pell, ac etifedd- odd oddiwrth ei fam galon haelfrydig a meddwl cryf, y rhai wedi eu santeiddio, a orchfygasant ei duedd- iadau anianol, ac a'i gwnaethant yn gyfryw nas gall eglwys Crist fforddio ei anughofio. Yr oedd ganddo frawd o'r enw Navigius, a chwaer, yr hon oedd weddw, ac a lywyddai ar gym- deithas o wragedd duwiol hyd ddydd ei marwolaeth. Dywed Awstin ei fod "wedi sugno enw yr Iachawdwr ar unwaith â llaeth ei fam, yr hwn a argraftodd mor ddwfn ar ei feddwl, fel nas gallasai un gyfundraeth na roddai ryw le i'r enw hwnw, pa mor ddysgedig a deniadol bynag, gael Uwyr feistrolaeth arno. Pan yn blentyn bloesg-'neddiai ar Dduw. Y mae yn wir fod yr hadau crefyddol hyn a daflwyd i ddaear ei feddwl wedi cael eu goresgyn gan chwyn llygredigaeth, cyfeiliornad, a chwantau halcgedig, ond ni ddiwreiddiwyd hwynt, ac ni thagwyd hwynt yn gwbl ganddynt. Yn nghanol crwydriadau ei farn a'i ymarweddiad, teimlai rywfaint oddiwrth yr argraffiadau a wnaed ar ei feddwl gan ymbiliau ei fam; clywai yn barhaus adsain ei gweddiai taerion drosto ar Dduw; a phrofai yn nyfnderoedd ei ysbryd radd o ddymuniad am Dduw, yr hyn a adrodda yn nechreuad ei "Gyffesion," yn y geiriau ardderchog, " Lecisti nos ad Te et in guietum est cor nes trum donec reguiescat in Te:" " Tydi O Dduw a'n creaist i ti dy hun, ac y mae ein calonau yn aíionydd, hyd oni orphwysont ynot ti." Anfonwyd ef i'r ysgol pan yn ieuanc, yn ei bentref genedigol. Awyddai ei dad a'i fam yn ogystal am iddo ddyfod yn ysgol- haig, ond nid oddiar yr un rhesymau, ac i'r un dybenion. Dysgwyliai ei dad am i'w addysg ei gymhwyso i fod yn ddinesydd enwog, ac yn aelod anrhydeddus mewn cymdeithas. Dys- gwyliai ei fam ar y llaw arall, i'w efrydiau "fod i ryw raddau yn fuddiol i'w arwain at Dduw." Wele un drychfeddwl y fam yn ymddangos eto —yr oedd am wnêyd pob peth yn ddarostyngedig i'r un pwnc mawr a feistrolai yn gwbl ar ei chalon;— anfonai ei bachgen i'r ysgol—gosodai ef i ddysgu y gw\ddorion, i ;ddarllen y beirdd, i astudio yr athronwyr—i ba beth? fel y gallent. fod ;yn rhyw fantais i'w arwain at \ Dduw. Dyma symlrwydd duwiol a ddylai gael ei