Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y METHODIST; CYLCHGRAWN MISOL. Rhif. 2. AWST, 1854. Cy*. I. Y DIWEDDAR BARCH. LEWIS JONES, BALA. Nid oes ond ychydig o'r meirw y byddai yn werth i'r rhai a adewir ar ol gael eu bywgraffiad; ac y mae ceisio cadw coffadwriaeth rhai anenwog yn fyw ar y ddaear mor ofer ag ydyw o ddiles, oblegid os na bydd hadau an- farwoldeb yn y cymeriad, pydru a wna yr enw er holl fedrusrwydd byw- graffydd. Ond os bydd elfenau parhad yn y nodweddiad, fe bery ei goffadwr- iaeth i berarogli yn hir ar y ddaear, pa un bynag a ysgrifenir llyfr o'i hanes ai peidio; ond heb yr elfenau hyn, ni bydd pob talent a ddefnyddir i'w ddar- lunio ond cyffelyb i'r myrr a'r aloes a ddefnyddiai y peraroglwyr gynt, i wneyd â hwynt gorff marw yn gymhwys i gael ei oddef dros ychydig yn nghym- ydogaeth y byw. Ac am a wyddom ni, byddai hon yn rheol dda i benderfynu pwy a ddylai gael bywgraffìad, sef y rhai hyny, a neb ond hwynt, y parbäai eu coffadwriaeth yn y cylch lle y buont yn troi heb hyny. Os nad oes sicr- wydd y pery ef yno am yr oes hòno, o leiaf, gwaith ofer ydyw ysgrifenu llyfr, neu mewn llyfr, am danynt, ni phery eu coffadwriaeth ddim drwyl y hyfr, os nad oedd elfenau parhad ynddo yn annibynol ar y llyfr. Oni welwyd cyn hyn goffadwriaeth ambell un yn ùarfod, er fod hanes ei fywyd wedi ei ysgrifenu yn fedrus mewn llyfr, tra y gwelwyd coffadwriaeth un arall yn par- hau, er fod y llyfr o'i hanes a ysgrifen- wyd yn gwbl annheilwng iddo. Os ydyw y rheol hon yn gywir, os nad ydym wedi camsynied yn fawr, nid oes neb wedi marw yn ddiweddar yn fwy teilwng o gael llyfr o goffadwriaeth na Lewis Jones; oblegid pa un bynag a ysgrifenir bywgraffiad iddo ai peidio, fe bery ei goffadwriaeth yn fendigedig tra y pery bywyd ei gydoeswyr; ac nid ydym yn amheu na bydd yr oes a ddel, er na welsant ei wyneb yn ol y cnawd, yn ymddyddan am dano, gan adrodd i'w gilydd ei sylwadau craffus a doeth. Nid ydym yn amcanu yn yr ysgrif hon roddi cofiant cyfiawn, neu ddarlun- iad cyflawn, o hono; a hyny, yn un peth, am nad allasem wneuthur hyny o íewn y cylch y bydd raid i ni gyfyngu ein hunain iddo; ac hefyd am ein bod yn hyderu y cymerir y gwaith mewn llaw gan ryw rai mwy cymhwys iddo, sef rhai o'i gymydogion a'i gyfeillion, ac y gwnant gyfiawnder àg ef, ac à hwy eu hunain hefyd. Ond pe na buasai dim ond teimlad o weddeidd-dra yn ein cymhell, buasai hyny yn ddigon i beri i ni beidio gadael iddo ddisgyn i'r bedd heb yngan gair am dano yn y " Methodist." Ond y mae llawer o bethau uwch na hyny yn ein cymhell at hyn. Yr hyn yr amcanwn ei wneu- thur ydyw, ceisio dangos rhai o'r ar- graffiadau a wnaeth ar ein meddwl ni ein hunain, a hyny yn benaf er mwyn y rhai na chawsant y fraint o'i adwaen. Ond nid ydym heb deimlo anhawsder- au y gorchwyl, nac heb ofni gwneuthur cam â'r gwrthddrych, oblegid tuag at