Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GOLUD YR OES: Rhif. 28.] HHAGFYR, 1864. [Ctf. II. BRWYDB MAES BOSWOETH. (GWEL IUDAL. 362.) BLlWYDlt MAES BOSWORTH. Ymladdwyd y frwydr hon ar ddydd Sadwrn, yr 22ain o Awst, 1485, ya agos i dref Bosworth, yn swydd Leicester, rhwng RichardlIL, brenin Lloegr, a adnabyddir yn gyffredin wrth yr enw " Rhisiart Gefngrwm," a Harri, iarll Richmond,ŵyr i Syr Owain Tudur, o Benmynydd, Mon, a therfynodd yn ngorch- fygiad a lladdedigaeth y blaenaf, a dyrchafiad yr olaf i orsedd a breniniaeth Prydain, dan yr enw Harri VII. Yr oedd Rhisiart yn dra amuoblogaidd fel brenin, ac wedi gweithio ei ffordd i'r orsedd trwy dywallt Uawer o waed, a chymeryd ymaith fywydau rhai o'i berthynasau agosaf. Ond er mwyn rhoddi goleuni ar ei gymeriad, yn gysfcal ac eglurhau yr amgylch- iadau a aiweiniasant i'r frwydr uchod, rhaid i ni fyned yn ol rhyw ddeg ar hugain o flynyddoedd. Yn y flwyddyn 1456 y dechreuodd y rhyfeloedd cartrefol gwaedlyd hyny a adnabyddir wrth yr enw " Rhyfel y Rhosynau," y rhai a barhausant i an- rheithio ein gwlad, braidd yn ddi-ddyspeidiad, hyd frwydr Bosworth. Yr achos o'r rhyfeloedd hyn yd- cyf. n.] oedd, fod Iorwertb, iarll Yorc, yn honi hawl i fren- iniaeth Lloegr, yn wrthwynebol i Harri, iarll Lan- caster, yr hwn y pryd hyny a deyrnasai dan yr enw Harri VI. Yr oedd pleidwyr y ddau deulu yma— Yorc a Lancatter—yn gwisgo rhosynau o wahanol liwiau, er gwahaniaethu y naill blaid oddiwrth y llall pan yn ymladd â'u gilydd—un blaid yn gwìsgo rhosyn coch, a'r llall rosyn gwyn. Ar ol chwe' blyn- edd o ryfela caled yn y modd yma, llwyddodd Ior- werth i ddiorseddu ei wrthwynebwr, a choronwyd ef yn frenin ar y 5ed o Fawrth, 1461. Ond ni roddodd hyn derfyn ar y rhyfel. Bu pleidwyr tŷ Lancaster yn gweithio yn fywiog am fiynyddau, trwy gymhorth o Ffraingc, a manau ereill; ao yn y flwyddyn 1470, darfu i Iarll Warwick, un o brif bleidwyr Iorwerth yn fiaenorol, droi yn ei erbyn, ac ymuno â'r Lancas- teriaid. Y canlyniad o hyn fu brwydr fawr Barnet, ì yn yr hon y lladdwyd Warwich. Yn mhen wyth niwrnod ar ol hyny, cyfarfu y ddwy fyddin yn Tewksbury—y Lancasteriaid y pryd hyny yn cael eu harwain gan y frenines Margaret, priod arwrol Harri, a'i mab, Tywysog Cymai—llengcyn deunaw oed. 2y