Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GOLÜD TE, OES CYLCHGH&WH . CEHEGLÄETHC-L. Rhif. 16.] EHAGFYR, 1863. [Ctp. I. Y DOCTOR DAFIS 0 FALLWYD. Daliwyd sylw yn fynycû> mai arfer Rhagluniaeth ydyw cyfodi i fyny ddynion rhagorol mewn doniau a dysgeidiaeth, ar amseroedd hynod ao anghyffredin. Bid sier na fagodd ardaloedd Cymru erioed, yn yr un oes, wŷr mwy dysgedig, mwy enwog eu doniau, neu fwy gwresog yn yr yspryd na'r ardderchog lu o dystion, y rhai, ar doriad gwawr y Diwygiad Eg- lwysaidd, a wnaethpwyd yn offerynau i wasgaru ty- wyllwch Pahyddiaeth yn y parthau hyn; ac ymhlith y goleuadau tra dysglaer yma, rhwydd yr addefir mai nid y lleiaf oedd y Doetor Dafìs o Fallwyd. Granwyd ef yn mhlwyf Llanferres, sir Ddinbych, o gylch y flwyddyn 1570. Tybygir mai enw ei dad ef oedd Dafydd ap Shon ap Rhys. Gwehydd ydoedd ef wrth ei gelfyddyd; ond os rhydd yw i ni goelio Ris- iart Cynwal, yr hwn a wnaeth gywydd i'r Doctor Dafis, i ofyn Beibl dros Robert Peilin (gŵr wrth gerdd,) yr oedd efe yn perthyn i'r teuluoedd anrhyd- eddus yn Ngogledd Cymru. Yn un o'i lythyrau, am- seredig Awst 26ain, 1623, y mae yn galw Rowland Fychan (Vaughan) o Hengwrt, yr enwog hynafiaeth- ydd, yn gefnder. Danfonwyd y mab i ysgol Rhuthyn, yr hon a gedwid y pryd hyny gan y dysgedig Dr. Parry; ac yno, mae'n debyg, y dechreuodd y gyfeillach garedig a barhaodd wedi hyny rhwng y gwŷr enwog hyn, ac a fu mor fuddiol i Dafis, pan ddyrchafwyd ei gyfaill i gadair esgobawl Llanelwy. Symudwyd Dafis o Ruthyn i Goleg lesu, yn Rhyd- ychain, yn y flwyddyn 1589, lle yr arosodd hyd oni chymerodd y radd gyntaf yn y Celfyddydau (B.A.) Ar hyn efe a ymadawodd â'r brifysgol; eto, fel y tystia ei lyfrau gorchestol, ni esgeulusodd un math o ddyfalwch i olrhain pob gwybodaeth fuddiol, ao i ychwanegu at ei ddysgeidiaeth o'r blaen. Tebyg yw mai ei angen a barodd iddo symud o Hydychain mor gynared; canys pan eangwyd ei gyllid ef, rai blynyddau wedi hyny (1608,) ni a'i cawn ef yn aelod o Goleg Lincoln, yn yr un brifysgol. Caf- odd ei wneyd yn Wyryf Difinyddiaeth, ac wedi hyny yn Ddoctor Difinyddiaeth yn 1616. Ni wyddys yn mha le neu yn mha fodd y tfeuliodd efe ei amser ar ol ymadael â'r brifysgol y waith gyn- 16 taf. Cafodd Fallwyd yn 1604, trwy awdurdod y brenin, a bu ganddo ar hyd ei oes. Llanymowddwy a gafodd gan yr Esgob Parry yn 1613, yr hon hefyd a ddaliodd hyd ei farwolaeth. Llanfawr ydoedd ber- sonoliaeth segurol, canys yr oedd yno ficeriaeth, yr hon a wasanaethid y pryd hyny gan Edmund Owen, ac wedi hyny gan Robert Gruffydd. Bu hono hefyd ganddo ar hyd ei oes. Prebenderiaeth Llannefydd a gafodd yn 1621, ac a ddaliodd hyd ei farwolaeth. Cafodd hefyd bersonoliaeth segur Darowain yn 1615, a bu hono ganddo hefyd hyd ei fedd. Clybu yr ys- grifenydd fod plwyf Garthbeibio hefyd ganddo; ond am y peth hwn ni allodd efe gael dim tystiolaeth sicr. Mae Risiart Cynwal yn eu coffa fel hyn:— Mae i ti renti drwy ras, Mab dewrddoeth, mwy b'o d'urddas; MaJlwyd sydd am welîhad sant, A Mowddwy yn eich meddiant, Llanfawr y blaenawr heb ludd, Llawn afael, a Llan Nefydd. Er maint yr ymddengys nifer ei blwyfydd, bid sicr na wnaethant iddo ymlaesu yn ei ddiwydrwydd, neu oeri ei fawr zêl er daioni a lles ei genedl. Pan gym- erodd yr Esgob Parry mewn llaw ddiwygio y cyfieith- iad o'r Beibl a wnaethai Dr. Morgan, gwahoddwyÄ y Dr. Dafis i gynorthwyo gyda'r gwaith; a diameu y dylid cyfrìf rhan nid bychan o gywreinrwydd addef- edig yr argraffiad hwnw i'w gwbl adnabyddiaeth o'r Gymraeg. Iddo ef hefyd y syrthiodd y gwaith o gyfieithu i'w famiaith y "Namyn-un-deugain Er- thyglau Crefydd." Cyhoeddodd hefyd y " Catecism," am yr hwn ni wyddys ychwaneg nag a ddywed ef ei hun, niewn llythyr at Owen Wynn o Wydir, amser- edig "Malloid, 23 o Ion., 1627," Ue y dywed, " Yr wyf yn anfon i chwi gwpl o Gatecism: nid oes genyf ond deg neu ddeuddeg o'r 500 a argreffais yn 1621, neu buaswn yn anfon ychwaneg i ohwi." Mae rhai yn haeru hefyd iddo gynorthwyo yn nygiad allan yr argraffiad o'r Beibl a barotôdd y Dr. Morgan. Mae y Dr. Dafis ei hun, yn ei lythyr cyflwyniadol Lladin i'r Esgob, sydd yn flaenddodol i'w Eirlyfr, yn cydnabod yn wylaidd fod ganddo ryw law yn y ddau gyfieithiad; ao yn ei Ragymadrodd Lladin i'r nn llyfr y mae yn dywedyd, "Byddwn yn arferol o ddy- chwelyd oddiwrth y gorchwyl ysgafn (fel ei gelwir) gyda mwy o awydd, a chydag astudrwydd a diwÿd- 3k