Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ADOLYGYDD. CANIAD SOLOMON. Yr oedd yr Iuddewon, fel y mae gwahanol genedloedd Dwyreiniol hyd heddyw, yn orhoíF o farddoniaeth. Yn fynych byddai y cyfry w yn hynod hededog ac allegawl. Cyfansoddodd Moses, Dafydd, Jeremiah, Deborah a Barak, Judith, Hannah, Samuel, a Hezekiah gâniadau rhagorol. Yr oedd rhai o honynt yn alarnadau, megys eiddo Dafydd ar ol Saul a Jonathan, (2 Sam. 1, 17); ac ar farwolaeth Abner, (3, 33;) ac eiddo Jeremiah ar ddinystr Jerusalem, ac ar farwolaeth Josiah, brenin Judah. Yr oedd ereill o natur orfoleddus, megys eiddo Moses ar fyn<?diad Israel drwy y Môr Coch (Exod. 15), ac eiddo Deborah a Barak ar orchfygiad Sisera. Ond y fwyaf neillduol, a'r fwyaf oruchel fe allai o honynt oll, ydyw y gân hon o eiddo Solomon. Darllenwn (1 Bren. 4, 32) fod Sclomon wedi cyfansoddi " mil a phump" o Ganiadau, ond ni erys ar gael o honynt ond Cân y Caniadau yn unig. Y mae llawer o ddynion dysgedig a duwiol perthynoì i wahanol bleid- iau crefyddol, ac mewn gwahanol oesau, wedi bod yn amheu a gwadu awdurdod a Dwyfoldeb y llyfr hwn, o herwydd na ddarfu Crist na neb o'r apostolion ddifynu un rhan o hono ; o herwydd nad oes ynddo un crybwylliad am enw yr Arglwydd, nac un cyfeiriad oddigerth yn alleg- awl ato ; ac am fod ei gynwysiad, a'i gymeryd yn llythyrenol, o natur chwareuol a charwriaethol. I hyn atebir, nad oes tir teg i amheu nad Solomon a'i cyfansoddodd, fod y synagog a'r eglwys wedi ei dderbyn yn mhob oes; y derbynir Uyfrau ereill ag na ddifynwyd gan Grist na'r apostolion ; a bod yr Ysgrifenwyr Ysbrydoledig yn fynych yn defnyddio allegion ; ac y gall y llyfr ond iddo gael ei gymeryd yn allegawl, fod yn foddion effeithiol i godi meddwl y credadyn i gymdeithas o'r fath agosaf a melusaf â'i Geidwad. A diau fod Uuaws o eneidiau mewn llawer oes wedi tỳnu cymaint o gysur a dyddanwch o'r rhan hyn o'r gair ag o un- ryw gyfran arall. Ond gall meddyliau anianol neu anwybodus wneu- fhur camddefnydd o honi, a meddyliem mai annymunol ydyw cefnogi ieuenctyd anystyriol i'w dysgu a'i hadrodd, tra y mae digon o gyfranau ereill o'r Gyfrol Ysbrydoledig yn fwy addas i'w hoedran a'u teimladau. Ni oddefai yr Iuddewon i neb ddarllen Caniad Solomon, hyd nes y byddai yn ddeg ar ugain oed, er nad oedd eu cynulleidfaoedd hwy yn cynwys yn gyffredin ond gwrrywod yn unig. Y mae y cyfieithiad aw- durdodedig hefyd yn llawer rhy lythyrenol ; y mae arferiadau Ewrop yn dra gwahanol i eiddo Asia, ac y mae arferiadau ac iaith ein gwlad ni