Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ADOLYGYDD. DR, CHALMERS A'I WAITH. Y mae ein darllenwyr yn hysbys ein bod wedi cyfyngu ein Hadolygiad o Waith Chalmers at y llyfr o'i eiddo, a elwir Egwyddorion Duwinyddol. Yr ydym eisioes wedi cymeryd golwg ar y rhan gyntaf, ac yn neillduol yr ail ran o'r gwaith gwerthfawr hwn. Yr ydym yn bresenol yn dyfod at y drydedd ran, sef Helaethder y Feddyginiaeth ; ac yn marn llawer, hon yw y rhan bwysicaf yn yr holl lyfr. Beth bynag am hyny, fe fydd yn dda gan ddarllenwyr yr Adolygydd wybod beth yw golygiadau un o dduwinyddion penaf y byd ar yr hyn sydd yn gwahaniaethu y gyfun- draeth Galfinaidd oddiwrth bob cyfundraeth arall. Nid oes achos i ni gyhoeddi yn y lle hwn beth ydyw ein credo ein hunain. Yn ol barn yr enwog Chalmers, y gyfundraeth Galfìnaidd ydyw yr agosaf at feddwl y Gair üwyfol, yr hwn y mae Duw pob gras wedi ei roddi i fod yn rheol ein ffydd a'n hymarweddiad. Ond nid ydym ni yn galw neb yn athraw ar y ddaear, oblegid un yw ein Hathraw, sef Crist. Nid ydym am dalu parch i Galfin neu i unrhyw dduwinydd arall, er mor enwog, ond mor bell ag y gallwn farnu ei fod yn ei olygiadau yn gyd- fynedol â'r Ysgrythyrau. Yr ydym, fel y dylem fod, yn ddiolchgar i Dduw am gyfodi yn y naill oes a'r llall, ddynion doniol, deallus, a dysg- edig, i egluro ac i amddiffyn y gwirionedd fel ag y mae yn yr Iesu ; ond ni feiddiwn eu cymeryd ond fel îs-athrawon i'r Athraw mawr ac anffael- edig. Yr ydym yn parchu pob dyn yn ol ei gymhwysder fel dysgawdwr, ac yn ol cyd-gordiad ei farn â phrawf-reol ein ffydd. Ein safon yw'r Gyfrol ysbrydoledig : " At y gyfraith ac at y dystiolaeth ; oni ddywed- ant yn ol y gair hwn, nid oes oleuni ynddynt." Y"r oedd Chalmers yn hynod am ei lwyr ymostyngiad i'r rheol hon. Yr oedd yn Uwyr argy- hoeddedig nad oedd yr un safle arall, mewn crefydd, i feddwl dyn. Siglednr, ansicr. a siomedigaethol yn ei olwg oedd pob sail ond hwn, ac adeiladu ar y tywod oedd pob ymgais i gael boddlonrwydd mewn crefydd ond yn ngoleuni yr Ysgrythyrau. Dywedasom eisioes fod dull Chalmers yn traethu ar dduwinyddiaeth, yn gwahaniaethu rhyw faint oddiwrth y dull cyffredin ; y mae yn diweddu He mae'r rhan amlaf o dduwinyddion ytí dechreu. Yn lle traethu yn gyntaf ar fwriadau y Duwdod, ac arfaethau y nef, y mae yn gwneuthur hyn yn ddiweddaf; y mae yn dechreu gyda dyn, ac wedi hyny yn cyf- odi at Dduw. Y mae yn gyntaf yn sylwi ar y gwirioneddau hyny sydd 3 F