Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YE ADOLYGYDD. YR OES APOSTOLAIDD. Tua deunaw can mlynedd yn ol, yr oedd yn byw yn ngwlad Judea ddeuddeg o bersonau wedi eu galw i fod yn Apostolion. Yr oedd y dynion hyn yn byw mewn cyfnod neillduol o oes y byd; a bu eu bywyd hwy eu hunain yn ddechreuad cyfnod newydd. Y fath oedd eu hynodrwydd, a'r gwaith oedd ganddynt i'w gyflawni, fel y gellir, gyda phriodoldeb, alw cyfnod eu bywyd Yr Oes Apostolaidd. Ac o holl oesau amser, dyma y fwyaf dyddorol a chyflawn o bob pwysigrwydd. Y mae hanes yr oes hon yn bob peth i'r rhai ä ymlynant wrth fíydd yr efengyl. Gwybodaeth fanol o'i hansawdd a'i hynodion, a daflai oleuni nid bychan ar sefyllfa pethau crefyddol drwy holl oesau y ddaear. Yn ngoleuni yr Oes Apostolaidd y canfyddir y gwahaniaeth angenrheidiol rhwng crefydd ddadguddiedig a gau-grefyddau, rhwng gwirionedd a thwyll, a rhwng ysbrydoliaeth Duw a hudoliaeth dynion llygredìg eu meddyliau. Ychydig o'i goleuni a barai i aml Simon y Swynwr ynfydu, ac a ddystawai ar unwaith ac am byth gyfarthiadau aflafar cŵn y byd, drwg-weithwyr, a'r cyd-dòriaid. Y mae yr oes hon yn dwyn bywyd ac anllygredigaeth i'r goleuni, yn dòriad gwawr gobaith ar y byd, yn ddechreuad teyrnasiad y Messia, ac yn osodiad i lawr egwyddorion ag sydd yn sicr o gario dylanwad ac awdurdod ar feddwl a buchedd dynolryw hyd ddiwedd amser. Yn hon y codwyd i fyny fanerau y groes, y rhai na pheidiant a chwhwfan yn awyrgylch y byd moesol, nes ei enill yn ol at Dduw, a gwawrio o'r borau, a chyfodi o'r haul ar y diwrnod dedwydd hwnw, pan y bydd angel Duw yn dywedyd, a'iadsain yn cyrhaeddyd trwy yr holl ddaear, " Aeth teyrnasoedd y byd yn eiddo ein Harglwydd ni a'i Grist ef." Hon ydyw oes yr oesau, cyfnod y cyfnodau, goleuad y goleuadau, a haul yr heuliau. Gan hyny, nid allan o le fyddai i ni edrych drosti, a chwilio ychydig i mewn i'w hynodion a'i phwysigrwydd, er canfod ei lleoliaeth priodol yn mhlith oesau y byd, ac awdurdod ei chrefydd a'i dadguddiad ar feddyliau ac amgylchiadau ei drigolion. Nis gellir gwybod i sicrwydd pa bryd y dechreuodd na pha bryd y diweddodd yr Oes Apostolaidd. Tybia rhai mai y Pentecost oedd tòriad ei gwawr, ac mai marwolaeth Ioan yr Apostol oedd machludiad ei hauî. Y mae ereill o'r farn ei bod wedi dechreu cyn dydd y Pentecost, ac iddibarhau ar ol marwolaeth yr Apostolion. I'n tyb ni, y mae yr Oes Apostolaidd yn briodol i'w chyfyngu i'r cyfhod hwnw ag y bu yr~ 2 M