Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ADOLYGYDD. MEDDYLEG. Ar y testyn dyrus a thra dyddorol hwn, y mae yn anhawdd gwybod pa lwybr a gymerir. Mae y traethawd yn rhwym o fod yn fyr o'i gymharu âg ëangder y testyn. Pan ystyrir cymaint sydd wedi ei ysgrifenu ar y pwnc o ddyddiau Thales hyd yn bresenol, a bod hanes athroniaeth arddansoddol yn " hanes am wrthddywediadau a chyfeiliornadau"—bod y naill gyfundraeth wedi llyncu y llall, a bod cyfeiliornadau y naill oes, ar ol cael eu claddu mewn ebargofiant am enyd, yn cael eu hadgynyrchu drachefn gan athronwyr oesau dyfodol dan ífurtíau newyddion a tharaw- iadol, tueddir ni i ofyn gyda Philat, "Beth yw gwirionedd ?" neu yn hytrach, Beth ydyw y gwirionedd ? Nis gall y darllenydd ddysgwyl cael traethawd terfynol ar y ddadl anorphen hon. Yn yr ystyriaeth o'r pethau hyn, meddyliem mai y dull gorau i ymdrin â'r pwnc fyddai, rhoddi golygiad cyíFredinol ar ei sefyllfa a'i brif egwyddorion, gan ym- drechu at sylwadau beirniadol hyd y gellir. Gan nad oes dim yn yr iaith Gymreig ar hanesiaeth y wyddiant hon, telir sylw neillduol i hyny. Nid ydym yn derbyn cyfundraeth neb mwy na'u gilydd, o herwydd y credwn eu bod oll yn agored i wrthddadleuon o'r fath bwysicaf, fel y dangosir yn helaeth a chyflawn yn holl feirniadaethau y cawr-feirniad Hamilton, yr hwn sydd wedi chwilfriwio y prif gyfundraethau, ac eto wedi dianc heb ffurfìo un ei hunan. Yr ydym, o ganlyniad, am gip-olygu y wyddiant hon mewn tri chysylltiad:—1. Ei dulliau (methods). 2. Ei dosbarthiadau o'r meddwl. 3. Yn ei chysylltiad â gwybodaeth neu ddrychfeddyliau, yn eu gwreiddyn, eu sicrwydd, a'u hëangder neu helaethrwydd. PENNOD I.---DULLIAU (methoàs) EFRYDIAD MEDDYLEG. Megys y mae yn ofynol i'r corff ddilyn llwybr neillduol wrth erlyn ei wrthrychau, felly hefyd y mae yn angenrheidiol i'r meddwl erlyn ei wrthrychau yntau yn ol cynllun a threfn. Wrth "ddulliau efrydiad Meddyleg" y golygir, gan hyny, y rheolau neu y drefn a ddilynir wrth ymchwilio i'r wyddiant dra phwysig a dyddorol o hunan-adnabyddiaeth. "Adnebydd dy hun" oedd arwydd-air y mawrwych Socrates, ac yr oedd yn deilwng o hono hefyd. "Adnebydd dy hun" ydyw arwydd-air pob gwron meddyliol o ddyddiau Socrates hyd heddyw. "Adnebydd dy hun" yw y wybodaeth fwyaf aruchel a dyrchafedig—oddieithr y wybod-