Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ADOLYGYDD. ATHRYLITH DAFYDD I0NAWR. [Gwaith Dafydd Ionawr. Dan Olygiad y Parch. Morris Wtl- liams, M. A„ Amlwch. Dolgellau: Cyhoeddedìg gan R. O. Rees. Argroffedig gan Evan Jones.~] Gwnaethom ychydig grybwylliadau am Dafydd Ionawr yn y rhifyn diweddaf o'r Adolygydd, ac addawyd y pryd hwnw, roddi y rhan olaf o'r Traethawd ar ei Athrylith a'i Weithiau, yn y rhifyn hwn. Er mwyn y sawl na welsant y gwaith, dymunem hysbysu fod y traethawd yn rhan- edig i dair pennod, y gyntaf ar Athrylith a Barddoniaeth; yr ail, yn cynwys dadchwiliad (analysis) o Weithiau y bardd; a'r drydedd, ar ei Athrylith, yr hoh a welir yn canlyn. Gadewir allan ychydîg frawddegau yn ei dechreuad, am y cyfeirient at y rhanau blaenorol, yr hyn nid yw reidiol yn awr. Mae yn dda genym ganfod, oddiwrth yr Adolygiadau a wneir ar Weithiau y bardd, ein bod wedi ffurfio barn mor agos i syniadau ein beirdd gorau am dano. Y mae Caledfryn, Eben Fardd, Gwilym Hiraethog, a Tegai, wrth dafoli y beirdd yn Y Traethodydd wedi gosod Dafydd Ionawr yn uchel a chydraddol iawn mewn iaith, cyng- hanedd a meddyliau. Pa fwyaf a ymgynnefiner â'r gwaith, mwyaf oìl yr hoffir ei lawnder a'i burdeb, ac anturiwn ddywedyd mai mwyaf oll y gofìdir i awdwr mor awenyddol ymgyfyngu at fesur mor anmhriodol i'w destyn. Ond er y cyfan— " Ei gerddi enwog eurddoeth Tra bo llên ac awen goeth A fyddant yn rhyfeddawd, Diwedd eu bri fydd brawd." Tra gylch y dòn Feirionydd, A thra daw i'w thir y dydd, I loni teulu anian A golau glwysteg haul glan, CynyddoT, rhyfeddol fawr, Fydd enw Dafydd Ionawb. Gellir cymeryd dwy olwg ar Athrylith Dafydd Ionawr, sef yn ei clfenau meddyliol ai nodwedd foesol. Yr eìfenau meddylioi a'i cyfan- soddent; a'r egwyddor foesol a'i rheolai. Hawdd gweled wrth ddarllen ei weithiau, fod yr elfenau deallol yn cynyrchu Gwreiddioldeb, Medr, a 3 D