Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ADOLYGYDD. YSBRYDOLRWYDD TEYRNAS CRIST. " Teyrnas Dduw," " Teyrnas Crist," a " Theyrnas nefoedd," sydd ymadroddion y cyfarfyddwn â hwynt yn fynych yn ysgrifeniadau Crist a'i apostolion. Defnyddir hwynt weithiau i osod allan yr " orphwysfa sydd eto yn ol i bobl Dduw." Ond deallir wrthynt fynychaf, yr oruchwyliaeth Efengylaidd, neu y drefn Gristionogol o ddwyn crefydd yn mlaen yn y byd. Mae hanfod crefydd bersonol rhwng dyn a Duw, yn gynyrch dy- lanwad Ysbryd Duw ar feddwl dyn, yr hyn a elwir yn ol iaith y Bibl yn "eni drachefn," " creu o newydd," "ymadnewyddu yn ysbryd ein meddwl," " gwneuthur yn gyfranogion o'r dduwiol anian," &c. Nid yw yr holl ymadroddion yna ond dullwedd neillduol o lefaru i ddynodi rhyw weithrediad dirgelaidd o eiddo Ysbryd Duw ar y galon yn effeithio grym a'r tueddiad rhinweddol yn y meddwl i'w garu, ac ymlynu wrtho. Lluaws o bobl o'r un egwyddorion a theimladau a unant â'u gilydd i gynal i fyny foddion crefyddol er cryfhau y dylanwad hwnw ar eu meddyliau eu hunain, a gwasgaru crefydd i'r byd. Gelwir y cyntaf yn " grefydd ber- sonol," a'r ail yn " grefydd gymdeithasol." Yn awr ilywodraeth Crist trwy ei air, a'i ordinhadau ar y cymundeb gweledig yma o Gristionogion a olygwn wrth " Deyrnas Crist." Gelwir hi " Teyrnas," i osod allan ei ffurf a'i chyfansoddiad. Mae yn perthyn iddi Frenin, deiliaid, cyfreith- iau, cosbau, a gwobrwyau—y Brenin yw Crist, ei deyrnas ef ydyw. Rhagddywedwyd am dano, y byddai iddo ymddangos fel Brenin i sefydlu ei orsedd yn y byd. Cyfreithiau y deyrnas ydyw ewyllys dadguddiedig Crist. Y maent wedi eu corffoli i ni yn y gwirionedd, a bydded felldig- edig y Uys, y Senedd, neu y synod a " ychwanego atynt neu a dyno oddiwrthynt." Y maent i ni " ynfeddwl Crist." Y deiliaid ydywpawb sydd yn cydnabod awdurdod unigol Crist mewn crefydd, ac yn rhodio yn ol "cyfraith y tŷ." Ac y mae canlyniadau tragwyddol bwysig yn nglŷn ag ufudd-dod neu anufudd-dod i'r cyfreithiau: " Er mawl gweithredwyr da," a "chan roddi dial i'r sawl nid adwaenant Dduw, ac nid ydynt yn ufuddhau i efengyl ein Harglwydd Iesu Grist." Mae y deyrnas yma yn ysbrydol yn ei natur a'i hegwydd- orion—yn moddion ac offerynau ei dygiad yn mlaen, ac yn yr amcan- ion a'r dybenion mewn golwg ganddi. Yr oedd yrhen oruchwyliaeth yn gynwysedig mewn defodau allanol, cadw dyddiau neillduol, a chyfyngu at fwydydd pennodol: " Y rhai oedd yn sefyll yn unig ar fwydydd a diodydd, ac amryw olchiadau a defodau cnawdol wedi eu gosod arnynt 2 K