Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ADOLYGYDD. DYDD GWYL BARTHOLOMEÜS. Hen axferiad ydyw cadw gwyliau, canys nid oes dim newydd dan. haul; eto y mae rhywbeth yn lled newydd i weled Ymneillduwyr yn gwneud hyny, ond y mae amgylchiadau yr amseroedd yn galw am iddynt ddàl gafael ar adegau priodol i alw sylw at eu hegwyddorion. Er ys ychydig ■flyneddoedd yn ol, y mae Dirprwywyr y Tri Enwad, fel eu gelwir, wedi rhoddi anogaeth ar i Ddydd Gwyl Bartholomeus gael ei ddefnyddio er traddodi pregethau ac anerchiadau ar egwyddorion Ymneillduaeth, a gwneir hyny yn lled gyífredin yn bresenol, Yr oedd Bartholomeus yn un o ddysgyblion Iesu. Gelwid ef hefyd yn Nathanael gan nad oedd Bartholomeus ond ei gyfenw, sef mab Tholomeus ; megys y dywedai yr hen Gymry ab Rhys, am berson oedd yn fab Rhys, ond yn awr a elwir Pryse. Yr oedd Nathanael yn un o ddysgyblion boreuaf Crist. Cyf- lawnodd ei weinidogaeth mewn rhanau o Arabia, Lyaonia, a Syria: ar ol hyn aethji Armenia, lle y dywedir y gosodwyd ef i farwolaeth drwy ei flingQ„yn~fyw, yn ol gorchymyn Astyages—nid darlun anmhriodol o'r cigydd-dra a gymerodd le yn mhen hir oesoedd ar lawer o ddilynwyr Iesu ; ac y mae ei wyl o ganlyniad yn adeg dra chymhwys i alw sylw at ddyoddefìadau amddifFynwyr crefydd bur, a rhyddid cydwybod yn mhob oes. Disgyn gwyl Bartholomeus eleni ar y Sabboth, ac er nad yw Yr. Adolygydd yn bregethwr, dichon na warafunir iddo, gan ei fod i ym- ddangos y tro hwn, mor agos i ddydd mor nodedig a'r pedwerydd ar ugain o Awst, gynyg rhai adgofion am dano, a thỳnu ychydig gasgliadau oddi- wrthynt. Cyn dechreu ar ein gorchwyl efallaiy goddefiri ni wneud rhai crybwyll- iadau am Ddirprwywyr y Tri Enwad. Y Tri Enwad dan sylw ydynt, yr Annibynwyr, yr Henaduriaethwyr, a'r Bedyddwyr,—y Dirprwywyr yw y rhai a gynrychiolant yr Eglwysi hyn yn Llundain, ac o fewn deu- ddeg milldir i'r ddinas, er amddifîyn eu hiawnderau gwladol. Nid ydyw y boneddigion hyn yn weinidogion, ond aelodau o fysg y gwahanol Eglwysi. Etholir dau o bob cynulleidfa-^—parhant yn eu swydd am dair blynedd—y mae ganddynt ddau gyfarfod blyneddol, un yn Rhagfyr a'r llall yn Mehefìn, yn y rhai yr ymdriniant â phethau cyffredinol, ond galwant yn nghyd luaws o gyfarfodydd er ymdrin â phethau neillduol, fel y byddo galwad. Y mae pob cynulleidfa sydd yn eu hanfon, i dalu dau gini yn flyneddol er dwyn y treuliau. Nid oes