Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ADOLYGYDD. CYFIEITHIAD Y BIBL I'R GYMRAEG. Gwnaed llawer cynygiad gwerthfawr, o bryd i bryd, tuag at wella cyf- lwr gwladol a moesol cenedl y Cymry : ond y rhodd fwyaf bendithiol a gafodd erioed ydoedd, "mawrion weithredoedd Duw," wedi eu cyfieithii a'u hargraffu, " yn eu hiaith eu hun, yn yr hon y ganed hwy." Y mae digon o brofion fod Cristionogaeth wedi ei dwyn i'n gwlad, mor fore a'r oes apostolaidd. Dywedid yn y Trioedd, fod yr efengyl wedi ei dwyn i'n pHth gan deulu Bran fendigaid, a bod bedd petrual i Bronwen, un o'r tylwyth, ar lan afon Alaw yn Mon; ac yr oedd darganfyddiad y bedd hwnw, a'r gist-faen yn mha un y dodasid ei llwch, yn profí yn ddigon eglur mai nid chwedlau disail a gofnodid yn y brud hwnw, ond hanesion gwirioneddol. Ac wedi i'r foneddiges nefol hono unwaith roddi ei throed i lawr ar derfynau Gwyllt Walia, ni ymadawodd eto â'r fro, a diau na ymedy byth mwy. Eto yr oedd yr anfanteision i ledaenu ei hegwyddor- ion pur yn mysg y cyffredin yn ddirfawr. Yr oedd y rhyfel-gyrehoedd allanol, a'r ymrysonau mewnol a brofai, yn attaliad effeithiol iawn i feithriniad crefydd a llythyriant, fel y parhaodd ei thywyllwch yn hir, er maint a fu rhagoriaethau ei dysgeidiaeth gynt, ac yn arbenig drwy ei darostyngiad dan ddylanwad Pabyddiaeth Rhufain, ac yr oedd ei thrueni mor fawr fel y gellid dywedyd am dani, yn yr oesau blaenorol i'r Dì- wygiad, ei bod yn "gorwedd yn mro a chysgod angau;" a bod cyfnod cyfíeithiad y Bibl i'r iaith gysefin, fel ymweliad â hi o godiad haul o'r uchelder, ac na bydd oesau y byd yn ddigon o hyd i ddiolch i Raglun- iaeth y nef am y fath fendith fawr. Yn y fiwyddyn 1768, cyhoeddodd y Dr. Thomas Llewelyn draethodau hanesyddol a beirniadol, yn rhoddi hanes led fanwl am y cyfìeithiadau Cymreig o'r Ysgrythyrau, a rhydd ddarluniad tra effeithiol o ansawdd y wlad yn flaenorol i'r Diwygiad, a gwna sylwadau priodol ar yr anhaws- der a fu er dwyn yr amcan clodfawr i ben, oblegid y petrusder a fyn- wesid gan gynifer, am y priodoldeb o feithriniad a pharhad yr iaith Gym- reig. Sylwodd y diweddar Barch. T. Charles o'r Bala, yn lled fanwl ar y cyfieithiadau Cymreig o'r Bibl, a'r gwahanol argrafíìadau o hono. Traddododd y Parch. J. Elias o Fôn, araeth yn Llundain ar yr un tes- tyn. Ysgrifenodd Tegid ar yr achlysur o osod i fyny fëdd-faen coffad- wriaethol am Dr. Davies, Esgob Tyddewi, yn lled helaeth ; a bu Gohebydd yn y Congregational Magazine yn lled fanwl mewn nodiadau