Skip to main content

YR OENIG. 161 ATHRONTAETH DEDWYDDWCH. GAN Y PARCH. D. THOMAS, STOCRWELL. (Parhad o'r Rhifyn diioeddaf) Yr wyf yn addef, yntc, fod pleser dealltwiûaethol yn elfea mewn dedwyddwch dynol—yn elfen nad ydym yn ofni siarad yn rhy uchel arn ei phwysigrwydd ; ac nis gallwn gyfeiliorni wrth gymhell ei mhabwysiad yn rhy gryf, waith gwyddom yn dda nad yw dynion ddim yn rhy dueddol i orbrisio pleserau nefolaidd myfyrdod, neu i'w ceisio gyda gormod o ddifrifoldeb. Ond yr ydym yn gwadu, er hyny, y gwnai o hono ei hun, neu hyd y nod pan wedi ei gysylltu a r teimladol, gyfansoddi y mwyniant a gyfarfyddai à llawn ofyniadau ein natur. Rhodder i ni y ddau—rhodder i ni yr oll a all ddigoni y teimladau a'r dealltwriaeth, a gadewir ni o hyd yn ddeiliaid blysiau ysol o ddosbarthiadau uwch heb un ddarpariaeth wedi ci gwneyd ar eu cyfer. Nid mewn pleser cymàeithasol yn unig. Nid wyf, wrth bleser cymdeithasol, yn golygu dim ond boddhad greddfau deadellaidd; y mae y cyfryw yn perthyn yn briodol i ddosbarth mwyniant teimladol. Nid gi-eddf anifeilaidd yw yr elfen gymdeithasol, ond cydymdeimlad ysbrydol—rhywbeth sycìd yn rhoddi i ni ddyddordeb dwfn a deallgar yn ein rhywogaeth. Y mae rhan fawr o'n dedwyddwch ui yn tarddu oddiwrth yr egwyddor hon sydd yn ein cysylltu ni à'n hil. Gallai cymdeithas anmhriodol, ac y mae yn anil, yn rhoddi poen; ond gwnai amddifadrwydd o gyfFelyb-ysbryd ein bodolaeth yn anoddefol. Siarad tybiau a theimladau ein calonau oin hunain, a gwrando ar leferydd eraill—cyfareh ein brodyr a'n chwiorydd gydag enaid haelfrydig, a groesawi yr atebiad cynes yn ol—caru a chael ein caru, cynorthwyo a chael ein cynorthwyo, arwain a ehael ein harwain, cymysg meddwl gyda meddwl, tymher gyda thymher, enaid gydag enaid. Yr ydym yn diolch yn ddifrifol i'n Gwneuthurwr am y cydnewid- iadau hyn sydd. yn perthyn i ddynoliaeth, y maent yn Tachwedd, 1856. 13_________