Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YB OENIO. 121 ATHRONIAETH DEDWYDDWCH. (GAN Y PAJRCH. d. thomas, stocewell.) Dedwyddwch ! Y fath air swynol! Pa faint y mae yn ei arddangos—y prydferthwch yn ngolygfa bywyd— yr haul-belydrau yn ei ddydd—y gerddoriaeth yn ei gynhyrfiadau—y dwfr bywiol ac arianaidd yn ei am- rywiol ffrydiau—un dymuniad dynoliaeth. "Dyben ac yragais ein bodolaeth." "Pwy a ddengys i ni ddaioni:" Yr anwar, y doeth, a'r sant—y cnawdol a'r ysbrydol— y llywodraethwr a'r hwn a lywodraethir—dyma lefer- ydd pryderus pawb. Cwyd o fythod a chestyll, siopau a chysegrfaoedd, marchnadoedd a monachlogydd, fel llef ddyfnaf eneidiau. Gwelir dyn yn mhob lle ac amser yn myned allan mewn ymchwil am "ffynon y bywyd." Y mae yn treiddio y nefoedd—yn cloddio y ddaear—yn crwydro cyfandiroedd—yn hwylio moroedd, —yn chwilio defnydd a meddwl, i geisio cael allan y ffrydlif baradwysaidd i dori ei syched eynddeiriog. "Awyddfryd y CBE1DU& ydyw." Yr uchelgais yw cynhyrfydd mawr y byd dynol—yr ysbryd diorphwys yn mhob olwyn dyrchafiad dynol. Y llanw, ydyw yn nghefnfor bywyd: y mae yn cyffroi y dyfnderoedd, yn codi y tonau, ac yn eu treiglo yn mlaen tua'r lan. " Y mae pob creadur (neu yr holl greadigaeth) yn cydoch- eneidio, ac yn cydofidio hyd y pryd hwn." Y mae cyffredinolrwydd y dymuniad dwys yma yn ddangosiad eglur fod ffynonellau o fwyniant yn bodoli yn rhywle, nad yw lliaws y byd eto wedi cyfranogi o honynt: oblegid rhaid caniatau na fuasai y Creawdwr daionus byth yn planu dymuniadau heb wneyd darpar- iaeth gyfatebol ar eu cyfer; ac ni buasai y fath wanc poenus yn bodoli mor gyffredinol, pe buasai dynion yn ymgyrcnu at yr iawn ddiwallfan. Oddiwrth arddigon- edd y daioni dwyfol ar y naill law, ac anfoddlondeb díorphwys dynion ar y llall, yr wyf yn casglu fod "afonydd o fwynderau" yn rhywle i dori y syched cyŵedinol—ffrydiau i lawenhau dinas y Duw byw, nad Hydeep, 1856. 10 ìl%